Merch Gruffydd ap Cynan, tywysog Gwynedd, oedd Gwenllian. Fe ddaeth hi'n wraig i Gruffydd ap Rhys, tywysog y Deheubarth ac Arglwydd Ystrad Tywi. Roedd e'n ddewr iawn ac ymladdodd lawer tro yn erbyn y Normaniaid. Fe gymerodd sawl castell oddi arnyn nhw, ac ennill yn 么l y tiroedd roedden nhw wedi eu dwyn oddi ar y Cymry. Un o elynion y Cymry yr adeg honno oedd Maurice de Londres, y Norman drigai yng nghastell Cydweli. Ei fwriad oedd lladd Gruffydd ap Rhys a chymryd meddiant o'r wlad. Fe glywodd Gruffydd fod y gelyn yn paratoi i ymosod arno a bod byddin fawr ar ei ffordd dros y m么r i ymuno 芒 Maurice de Londres. "Rhaid i mi fynd ar unwaith i Wynedd i ofyn am help Gruffydd ap Cynan," ebe Gruffydd ap Rhys. "Os af i ar unwaith fe fydda i'n 么l mewn pryd i arwain fy myddin yn erbyn y gelyn." Galwodd ei benaethiaid ato a dywedodd wrthyn nhw, "Fe adawa i'r llys yn eich gofal chi." "Fe ofalwn ni na ddaw dim niwed i'th deulu nac i'th eiddo di tra byddi di i ffwrdd," oedd ateb y penaethiaid. Yna, fe aeth y tywysog i Wynedd a'i fab hynaf Rhys gydag ef. Ar ddydd Gwyl Dewi 1136 roedd gwylwyr ar ben Mynydd y Garreg yn gwarchod y castell. Daeth y newydd fod byddin fawr o Normaniaid wedi glanio ym Morgannwg ac y bydden nhw yng Nghydweli ymhen deuddydd. Aeth y gwylwyr ar frys i ddweud wrth Gwenllian.
|