Cyfoethogi ansawdd bywyd cathod mawr - Llewod Asiaidd a Theigrod S诺matraidd. Wedi cwblhau ei gradd yn y Brifysgol cafodd Nerys yr awydd i astudio cwrs MA Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a dyna ddechrau ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau. Cyd-gyflwynodd Nerys gyfres bywyd gwyllt a natur o'r enw Gwyllt gyda Iolo Williams ynghyd 芒 chyflwyno un rhaglen yng nghyfres Gwyllt ar Grwydr, allan yn Ne Affrica gyda chreaduriaid y m么r.
"Dwi o hyd wedi cael yr awydd am fynd i Dde Affrica er mwyn cael y profiad o weld a dysgu am y bywyd gwyllt anhygoel sy'n byw yno," esboniodd Nerys. Gyda'r awydd ar fenter teithiodd Nerys bob cam i Dde Affrica gan ymgymryd 芒 gwaith gwirfoddol ym myd cadwraeth bywyd gwyllt a natur o fis Ionawr hyd ddechrau mis Ebrill 2003.
Ar gyfer y rhaglen deledu Gwyllt ar Grwyd, bu camer芒u yn dilyn Nerys wrth iddi dreulio chwech wythnos ym Mae Plettenberg yn cynorthwyo staff yng Nghanolfan Astudiaethau Dolffiniaid.
"Roedd y profiad yn un arbennig iawn i mi, fe ddysgais gymaint ond mwy na hynny fe wnes i fwynhau pob munud ohono' dywedodd Nerys. 'Gwelais anifeiliaid roeddwn ond yn breuddwydio am eu gweld ynghynt.' Ynghyd 芒 ffilmio ar gyfer y rhaglen Gwyllt ar Grwydr, treuliodd Nerys chwech wythnos arall yn Ne Affrica yn cynorthwyo gyda'r Prosiect Cadwriaethol Garonga, Hoedspruit. Yno, daeth wyneb yn wyneb gyda llewod, eliffantod, crocodeilod a jiraffod a dysgodd llawer am adar, pryfed, coed a phlanhigion y gwylltir.
Ar hyn o bryd mae Nerys yn gweithio i gwmni Telesgop, ac mi fydd yn cynorthwyo S诺 Bryste yn y babell Wyddoniaeth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Yn ogystal 芒 hynny mi fydd Nerys yn dechrau Cwrs Ymarfer Dysgu yng Ngholeg y Drindod yn mis Medi. Dymunwn bob lwc i Nerys yn y dyfodol.
Bethan Rogers