Soniwch am eich cefndir
Cefais fy ngeni a'm magu ar fferm Cilmarch ym mhlwyf Llandyfaelog, yn unig blentyn i John ac Olwen Rees. Fy nhad oedd yr hynaf o ddeuddeg o blant Thomas ac Annie Rees, Cwmyrarian, Llandyfaelog, tra bod mam wedi ei magu ar fferm Pendine, Llanllawddog. Roedd y capel a cherddoriaeth yn bwysig iawn i'r ddau ac rwy'n cofio llais soprano bendigedig Mam yn canu yn y gymanfa ganu a'r pwnc. Bu fy nhad yn arweinydd y g芒n ac yn flaenor yng Nghapel Rama am dros 50 mlynedd. Rydw i'n dilyn 么l eu traed ac wedi canu'r organ yng Nghapel Rama am 42 o flynyddoedd - ers pan yn 14 oed, rwy'n arweinydd y g芒n yno ac yn ysgrifennydd gohebol yr eglwys.
Derbyniais fy addysg yn Ysgol Idole, cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Ystrad Tywi. Pan yn 15 oed bu'n rhaid penderfynu beth i'w wneud, ai aros ymlaen yn yr ysgol neu gadael a dod adref i weithio ar y fferm. Dod adref wnes i.
Pwy wnaeth feithrin eich dawn gerddorol?
Roedd hi'n amlwg o'r dechrau bod cerddoriaeth yn fy ngwaed ac mae gennyf ddyled fawr i fy rhieni am feithrin hyn. Dechreuais gystadlu pan oeddwn yn 4 oed, yn Eisteddfod Bancycapel. Roeddwn yn canu ar y llwyfan cyn i'r eisteddfod ddechrau gan fy mod mor 'keen'! Rwy'n cofio ennill fy nghwpan cyntaf yn Llanpumsaint, yn canu o dan 8 oed. Pan es i n么l y wobr bues bron cwympo lawr o'r llwyfan cymaint oedd fy malchder!
Un uchafbwynt oedd ennill gwobr gyntaf am ganu unawd dan 12 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Rhuthun, 1962. Dechreuais gael gwersi piano pan oeddwn yn 6 oed gyda Donald Nicholas, Llandyfaelog. Pan yn 8 oed es am wersi canu at William John Gwenter yn Middle Road ger Abertawe.
Yna cefais wersi gyda'r meistr ei hun, Idris Griffiths, Llanelli. Bu'n ddylanwad mawr arnaf fel athro canu, nes i'r llais dorri, ac yna athro piano. Roeddwn hefyd yn cystadlu ar y piano mewn eisteddfodau a dros y blynyddoedd rwyf wedi ennill dros 70 o gwpanau, tariannau a medalau.
Mae cerddoriaeth wedi rhoi pob math o brofiadau i chi, pa un sydd fwyaf cofiadwy?
Rwyf wedi cymryd rhan mewn pob math o gyngherddau a nosweithiau cerddorol ond daeth yr uchafbwynt ym 1998 pan drefnais Gyngerdd Mawreddog yn Eglwys Llandyfaelog er cof am fy nhad. Y perfformwyr oedd C么r Godre'r Aran, dan arweinyddiaeth Eirian Owen, a chadeirydd y noson oedd y diweddar Mr Handel Evans, Tir Gelli, cyfaill agos i'n nhad. Noddais y gyngerdd fy hunan a gwneud elw o 拢2200. Hwnnw wedyn yn cael ei rannu rhwng Capel
Rama ac Eglwys Llandyfaelog. Roedd yn noson i'w chofio.
Pa bart茂on a chorau ydych chi wedi bod ynghlwm 芒 nhw?
Ar ddiwedd y 60au roeddwn yn aelod o'r gr诺p pop 'Y Llan' gyda phump o gyfeillion lleol. Ym 1973, ffurfiwyd C么r Rama a'r Cylch ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1974. Fi oedd cyfeilydd y c么r am ddeunaw mlynedd. Hefyd yn ystod y 70au ymunais 芒 pharti Bois y Dderwen dan arweinyddiaeth Meinir Lloyd. Ar ddechrau'r 80au roeddwn yn aelod o'r 'Tri Llan' a thua'r un adeg
ymunais 芒 pharti'r 'Diddanwyr' fel cyfeilydd. Un o'r profiadau mwyaf cofiadwy a gefais gyda hwy oedd perfformio ar y record 'Awr fach ddiddan gyda'r Diddanwyr'.
Ar ddiwedd yr 80au, ffurfiais gr诺p offerynnol i gyfeilio mewn cymanfaoedd modern sef 'Y Cymodwyr.' Ym 1990 derbyniais wahoddiad gan Gwyn Nicholas, arweinydd C么r Llanpumsaint a'r Cylch i ganu gyda hwy ar daith i Toronto ac rwyf wedi parhau yn aelod ers hynny. Ym 1994 dechreuais gyfeilio yn Eisteddfod C.Ff.I. Sir G芒r ac rwy'n dal i gyfeilio i'r Eisteddfod honno ar y cyd gydag Iwan Evans. Yn ogystal, rydw i'n cyfeilio i G么r Merched Glannau'r Gwendraeth, a newydd fod yn recordio cryno ddisg 'Cefn Sidan' gyda hwy a'u harweinydd presennol, Margaret Morgan.
Rhowch hanes y codi arian ar gyfer achosion da.
Y tro cyntaf i mi gael fy noddi i chwarae'r organ oedd ym 1979. Cefais y syniad o chwarae'r organ am 8 awr er mwyn codi arian ar gyfer cronfa ward y plant yn Ysbyty Glangwili. Llwyddais i godi 拢300. Aeth cryn amser heibio cyn i mi wneud rhywbeth tebyg eto yna ym 1993 chwaraeais bob emyn yng Nghaniedydd yr Annibynwyr a chodi 拢1,525 ar gyfer ap锚l Heno/S4C i Ymchwil y Galon. Ym 1994 codais 拢1,000 i Uned y Llygaid yn Ysbyty Glangwili. Deng mlynedd yn ddiweddarach, yn 2004, codais 拢3,600 i uned ENT yr Ysbyty. Ym mis Medi eleni lwyddais i godi 拢2,400 ar gyfer Ap锚l Llandyfaelog a San Ishmael, Eisteddfod yr Urdd Sir G芒r. Mae'r holl gyfanswm yn agos at 拢9,000!
Mae'n amlwg eich bod wedi cael bywyd prysur iawn rhwng y cyfeilio a'r canu, ydych chi'n amser i wneud unrhyw beth arall?
Ydw 'dwi'n hyfforddi plant a phobl ifanc i ganu ac yn cyfansoddi. Dechreuais gael blas ar gyfansoddi ar ddiwedd yr 80au wrth gystadlu yn Eisteddfod Bancffosfelen. Fy emyn d么n pwysicaf yw 'Glasdir' a gyfansoddais ar ddiwedd 1993 er cof am Huw Evans, Glasdir, fy nghyfaill a ffurfiodd gr诺p 'Y Llan.'
Mae dysgu plant a phobl ifanc wedi chwarae rhan bwysig
derbyniais wahoddiad gan yn fy mywyd ac yn dal i wneud. Un llwyddiant oedd hyfforddi Ceirios Davies, Nantgaredig, pan enillodd y wobr gyntaf ar yr unawd dan 12 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir F么n, 2003. Ffurfiais g么r plant oedd yn cwrdd am gyfnod bob bore Sadwrn yn neuadd Llandyfaelog a bues hefyd yn hyfforddi rhai ychydig yn h欧n ym 1996, gyda chymorth Eilwen Francis fel cyfeilydd, arweiniais c么r pensiynwyr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr.
Mae'n amlwg bod eich gwaith caled yn cael ei werthfawrogi oherwydd rydych wedi derbyn nifer o anrhydeddau. Soniwch wrthym amdanynt.
Cefais bleser mawr ym 1995 o dderbyn y Wisg Werdd yng Ngorsedd y Beirdd. Yn ystod yr un flwyddyn cefais fy enwebu gan y diweddar Barchedig Eirian Davies i dderbyn anrhydedd 'Halen y Ddaear', ar y rhaglen Heno. Yn yr un modd, yn 2003, enwebwyd fi gan fy nghyn卢 ddisgybl, Gary Anderson, i fynd ar raglen 'Diolch o Galon' am fy ngwasanaeth fel cyfeilydd dros y blynyddoedd. Rydw i bob amser yn barod i helpu pawb ac yn ei chael hi'n anodd dweud na! Cofiwch 'dw i ddim yn hoffi bod yn segur. Mae yna un dywediad rwy'n ei hoffi sef os ydych am gymwynas, gofynnwch i rywun prysur!