³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Fflur Dafydd Gwyl y Llyfrau
Mehefin 2009
Mae un o awduron amlycaf y De Orllewin, Fflur Dafydd wedi cael ei gwobrwyo yng Ngwyl y Gelli.

Roedd Gwyl y Gelli yn llwyddiant ysgubol eleni eto, gyda darlleniadau a pherfformiadau gan awduron byd enwog mewn cae yn y Gelli Gandryll, ger y ffin â Lloegr.

Fe ddaeth y tyrfaoedd i glywed amryw o siaradwyr arbennig gan gynnwys y Parchedig Desmond Tutu, y dramodydd Alan Bennett a'r darlledwr David Frost.

Roedd yn wyl i'w chofio hefyd i'r awdur Fflur Dafydd o Gaerfyrddin, a lwyddodd i ennill Gwobr Awdur Ifanc yr wyl.

Fe ddywedodd Peter Florence, Cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, mai nofel Saesneg gyntaf Fflur, Twenty Thousand Saints, oedd un o'r nofelau gorau iddo'i darllen ers blynyddoedd.

Fel rhan o'r wobr, a noddwyd gan Oxfam, fe dderbyniodd Fflur gopi argraffiad cyntaf o nofel enwog Harper Lee, To Kill a Mockingbird.

Bu Fflur hefyd yn siarad mewn dau ddigwyddiad yng Ngwyl y Gelli eleni, un gyda Nam Le, enillydd Gwobr Dylan Thomas, a'r llall gyda'r awdur a'r darlledwr Jon Gower.

Fe fydd hi nawr yn cychwyn ar daith i hyrwyddo Twenty Thousand Saints, gan gyflwyno darlleniadau yng ngwyl Latitude yn Lloegr ac hefyd yng ngwyl lenyddol Lahti yn y Ffindir.

Mae'r nofel Twenty Thousand Saints yn seiliedig ar hanes awdur ifanc yn treulio chwe mis ar Ynys Enlli.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý