Yn ddieithriad mi fydd un cwestiwn cyffredin yn cael ei ofyn. Wrth siarad mewn cyfarfodydd sefydlu pwyllgorau lleol ar gyfer yr Eisteddfod mewn gwahanol ardaloedd ar draws y Sir, mi fydd yr un cwestiwn yn cael ei ofyn. Does dim angen i chi fod yn berson clyfar iawn i ddyfalu beth yw'r cwestiwn "Ble mae'n mynd i fod?" "Ble fydd yr Eisteddfod?"
Yr oedd y wasg yr un mor eiddgar i ddod o hyd i'r gyfrinach gan awgrymu bod trefi'r sir ben ben a'i gilydd yn ymladd i gael yr Eisteddfod i'w cylch. Awgrymodd un gohebydd fy mod i si诺r o fod wedi alaru 芒'r holl gwestiynau. Doedd dim cyfrinach a doeddwn ni ddim wedi alaru. Mi roeddwn i fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn falch dros ben o'r brwdfrydedd sydd wedi ei amlygu'n barod, a'r awydd sydd wedi bod mewn nifer o ardaloedd yn y sir i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'w hardal, a hynny o Lanelli drwy Gaerfyrddin i Lanymddyfri. Braf yw gweld bwrlwm o weithgareddau sy'n cael eu trefnu a'u cynnal yn barod ymhob cwr o'r sir, a hynny cyn bod penderfyniad wedi ei wneud ar leoliad.
Deg a thrigain mlynedd yn 么l i eleni daeth Eisteddfod yr Urdd i Sir Gaerfyrddin ar ei hymweliad cyntaf. Cynhaliwyd Eisteddfod 1935 yng Nghaerfyrddin. Llanelli oedd lleoliad ail ymweliad Eisteddfod yr Urdd 芒'r sir a hynny ym 1939. Daeth i Rydaman ym 1957, Caerfyrddin eto yn 1967. Llanelli wedyn am yr ail-dro ym 1975 ac yna i Gwm Gwendraeth ym 1989. Mae gweithgarwch yr eisteddfod honno yn dal i ddylanwadu ar weithgareddau yn y fro drwy Fenter Cwm Gwendraeth.
Gwahoddwyd Eisteddfod yr Urdd i Ddyffryn Taf yn y naw degau ac yn ddiweddarach daeth awgrym am Eisteddfod yn Llandeilo, ond ni ddaeth hynny i ben. Gan na chafwyd Eisteddfod yn y sir yn ystod y nawdegau yr oedd llawer ar draws y sir yn frwd i gael yr Eisteddfod yma yn negawd cyntaf y Mileniwm newydd. Yn wahanol i Eisteddfodau'r gorffennol, Eisteddfod i'r sir gyfan fydd Eisteddfod 2007, sydd felly'n teilyngu'r enw 'Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gar 2007'. Bydd y craff yn eich plith wedi sylwi bod hynny ddeugain mlynedd union i Eisteddfod yr Urdd a fu yng Nghaerfyrddin yn 1967.
Ar 么l wythnosau o ystyried, pwyso a mesur, a thrafod, daeth ateb i'r holl holi. Cafwyd adroddiadau a sylwadau gan nifer wrth i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar leoliad Eisteddfod 2007. Mi roedd yr argymhelliad yn dilyn adroddiadau gan y Pwyllgor Maes, un o swyddogion y Pwyllgor Gwaith a oedd wedi ymweld 芒'r safleoedd, adroddiad ar anghenion technegol ac ymarferol ynghyd 芒'r gwasanaethau, adeiladau, adnoddau ar gyfer rhagbrofion, cyfleustra parcio, llety a charafanio. Yr oedd yn rhaid ystyried diogelwch ac wrth gwrs gostau a materion ariannol.
Ar sail yr holl adroddiadau doedd dim amheuaeth mai cae'r Sioe Unedig yn Nantyci oedd yn cynnig ei hun fel y safle orau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir G芒r 2007.
Tom T. Defis
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir G芒r
|