Mae'n si诺r i chi ddarllen yn rhifyn diwethaf o Cwlwm (Mawrth 2008), ein bod yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 30 oed eleni ac i'r rhifyn diwethaf ddigwydd bod y tri chanfed rhifyn. Codwyd y syniad i gysylltu a T.Gwynn Jones, Golygydd cyntaf Cwlwm ac un o Lywyddion G诺yl Dram芒u Cwlwm sy'n digwydd ar ddechrau'r mis hwn. Cododd Nan Lewis y ff么n ac roedd yn barod iawn ei gymwynas. Dywedodd y byddai TRYSOR ar ei ben ei hun wedi ei siwtio'n well ac fe gewch weld pam yn y man. Dyma T. Gwynn i s么n am yr hanes.
Fe fenthyciais lyfr o Lyfrgell Abergwaun o'r enw Lusitania - The Ship and Her Record. Fe'i cefais yn llyfr arbennig o ddiddorol, a chan mod i'n byw yng ngolwg y m么r, fe fagais ryw ddiddordeb yn y stori, er bod gen i fwy i'w ddweud wrth gi defaid nag wrth long.
'Ychydig o gefndir i gychwyn. Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, roedd hi'n gyfnod "Rule Britannia, Britannia Rules the Waves". Ond yn 1897, fe adeiladodd yr Almaenwyr long enfawr bedair simne - y llong fwyaf i groesi'r Iwerydd, a'r gyflymaf hefyd. A dyna grib oes Fictoria wedi ei thorri, ac am ddegawd fe aeth pethau o ddrwg i waeth, a llongau'r Almaen yn mynd yn fwy ac yn fwy. A doedd pethau ddim yn dda rhwng Prydain a'r Almaen - roedd s诺n rhyfel ym mrig y moroedd- Rhaid oedd cystadlu 芒'r Almaen, doed a ddelo.
Rhoddodd Llywodraeth Prydain fenthyg dros ddwy filiwn a hanner o bunnau i gwmni Cunrad i adeiladu dwy llong enfawr - y Mauritania Lusitania i fynd n么l a blaen i'r Amerig. Roedd yna amodau clir. Roedd y ddwy long i gael eu hadeiladu i fod yn llongau rhyfel pe bai raid; roedd y ffurfafen wedi dechrau duo bryd hynny yn 1907 a rhaid oedd cystadlu 芒'r Almaenwyr ac achub y blaen. A rhaid cofio mai llongau pleser moethus oeddynt.
Roedd y Lusitania yn 790 troedfedd o hyd - hyd dau a hanner o feysydd p锚l-droed. Anferth o long a'r llong fwyaf moethus a rodiodd y moroedd. Gallai groesi'r Iwerydd mewn llai na phum niwrnod. Y 'ni' oedd yn rheoli 'nawr, er mawr ofid i'r Almaen, a gyda 'ni' oedd y llaw uchaf.
Fe'i lansiwyd ar ei thaith gyntaf ar Fedi 12, 1907, a 200,000 o bobl yn ei gwylio'n gadael Lerpwl. Fe dorrodd y rhyfel ar Awst 4ydd, 1914. Ar 1af o Fai 1915, hwyliodd y Lusitania o Efrog Newydd am Lerpwl. Ar y 7fed o Fai, a hithau rhyw ddeuddeg milltir o Iwerddon, 'roedd sybmar卯n Almaenig - yr U-20 yn llercian. Fe daniodd un torpido at long bleser fwyaf y byd, ac o fewn deunaw munud roedd y Lusitania ar ei ffordd i waelod y mor. Arni yr oedd 1,257 o bobl a 650 o griw. Boddwyd 785 o bobl a 413 o'r criw, a hynny o fewn chwarter awr. Bu sawl ymdrech gan ddeifwyr dros y blynyddoedd i chwilio'r olion. Erbyn hyn, 'does fawr ohoni ar 么l - llong fwyaf ei dydd, a'r harddaf, bellach yn ddim and tomen o fetel ar waelod yr Iwerydd, tua 300 troedfedd i lawr.
Ond mae'n bryd dod 芒'r stori i ben. Ac nid wyf wedi s么n am y TRYSOR. Roedd yr Almaen mor falch o fod wedi ennill y wobr fawr, ac yn llawenhau cymaint nes taro medal i gofio'r achlysur - 300 o fedalau aur a channoedd o rai pres, a bocs gyda llun y llong arno i ddal y fedal ac mae gen i un o'r medalau pres. O le y daeth hi? Roedd teulu fy
nhad yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Cadwst wrth droed mynydd y Berwyn - tyddyn bychan, teulu mawr - a bywyd yn sicr o fod yn galed, ac yn dlawd. Ac wedi i'r olaf o'r teulu adael y tyddyn yn y chwedegau, fe fu clirio.
Ac felly y daeth y fedal i'm dwylo i. " Trysor" meddech chi. Dim and ar un olwg. Mae edrych arni, a'i byseddu yn deffro'r cof am Cadwst, ac yn ail-greu'r darlun sydd gen i yn fy meddwl o fy nhaid, a theulu fy nhad. Hwnnw yw'r trysor - ac mae'n drueni mai un o ddigwyddiadau erchyll y Rhyfel Mawr sydd y tu 么l i'r cyfan. Ond ei chadw yn y cwpwrdd gwydr fydd ei hanes, si诺r o fod.
T. Gwynn Jones