|
|
|
Bardd Plant 2005-06 Mererid Hopwood yn fardd plant |
|
|
|
Y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yw Bardd Plant newydd Cymru.
Gwnaed y cyhoeddiad oddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd nos Fawrth.
Enillodd Mererid Hopwood ei chadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001. Enillodd y Goron ym Meifod ddwy flynedd yn 么l.
Mae'n dilyn Tudur Dylan Jones yn fardd plant.
Mae hon yn wythnos brysur i Mererid, hi yw un o lywyddion y dydd , ddydd Iau, ac mae'n cyhoeddi dau lyfr, casgliad o Hwiangerddi a stori i blant, Ynys yr Hud.
Er nad oes ganddi gynlluniau pendant ar gyfer ei blwyddyn yn fardd plant dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda phlant ar hyd a lled Cymru.
"Ond yr ydw i'n rhagweld y bydda i yn dysgu llawer mwy gan y plant nag a fyddan nhw yn ei ddysgu gen i," meddai.
Ychwanegodd mai'r hyn sy'n gwneud cydweithio 芒 phlant yn gymaint o bleser yw eu dychymyg anhygoel.
"Mae eu dychymyg yn ddiderfyn ac maen nhw'n gweld yn bell iawn," meddai.
Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru, gyda'r bwriad o godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi.
Mererid Hopwood yw'r chweched bardd i dderbyn y teitl, a dim ond yr ail ferch.
Mae'n dilyn, Myrddin ap Dafydd, Meirion McInyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Tudur Dylan.
Mae'n derbyn yr anrhydedd yn y ddinas lle'I ganwyd - ond yn Sir Benfro y mae ei gwreiddiau.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn mynd ymlaen i raddio mewn Almaeneg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth ac ennill doethuriaeth o Goleg Prifysgol Llundain.
Yn Llangynwr ger Caerfyrddin mae hi'n byw yn awr gyda Martin ei g诺r, a'u tri phlentyn, Hannah, Miriam a Llewelyn.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn. Rwy wedi cael cyfle i gynnal gweithdai gyda phlant yn y gorffennol ac wedi mwynhau mas draw - rwy'n si诺r y bydd hi'n flwyddyn o hwyl ac y caf innau ddysgu llawer. Gobeithio'n fawr y gallaf helpu ysgogi plant i fwynhau cerddi o bob math - eu darllen, eu dysgu a'u cyfansoddi!" meddai.
Llywyddion
|
|
|
|
|
|