|
|
|
Medal Ddrama Bu'n rhaid tynnu rhegfeydd allan o'r rhan o ddrama fuddugol Eisteddfod yr Urdd a ddangoswyd ar y llwyfan ddydd Mercher. |
|
|
|
Ond dywedodd awdur Ty'd Allan y Pwff, Bethan Williams, nad yw'n arferiad ganddi hi ddefnyddio rhegfeydd er mwyn rhegfeydd wrth sgrifennu.
Yn yr achos arbennig hwn, meddai, yr oedd angen y rhegfeydd i gynnal rhythm golygfa frawychus diwedd y nofel sy'n darlunio ymosodiad ciaidd.
Yr oedd drama Bethan yn un o ddeg a anfonwyd i gystadleuaeth Medal Ddrama yr Eisteddfod.
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd y beirniad, Lowri Hughes, fod pedair drama ymhell ar y blaen i'r lleill yn ei barn hi a'i chyd-feirniad, Mari Rhian Owen.
Am y ddrama fuddugol dywedodd i'r awdur greu prif gymeriad "efo dyfnder gwirioneddol."
"Mae'n gymeriad astrus wedi ei lunio yn gelfydd," meddai gan ddweud fod i'r ddrama sensitifrwydd ac aeddfedrwydd.
Awgrymodd, fodd bynnag, nad oedd y llif meddwl yn ddigon cynnil a llyfn a bod y diwedd braidd yn or-ddramatig.
"Ond gwendidau bychain yw y rhain," ychwanegodd.
Am y diweddglo, dywedodd Bethan ei bod yn siomedig iddo gael ei ddangos ar lwyfan yr Urdd fel rhan o seremoni ei gwobrwyo.
"Yn anffodus fyddai'r olygfa ddim yn berthnasol i'r gynulleidfa gan nad oedd wedi gweld yr hyn oedd yn arwain ati," meddai.
"Yr hyn oeddwn i'n ceisio'i ddangos oedd sut y gall pobl ffrwydro allan o reolaeth o gael eu gorfodi i guddio eu teimladau yn fewnol," meddai.
Hwn oedd cyfle olaf Bethan, 24, i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd iddi gael ei syniad am y ddrama, sy'n troi o gwmpas rhwystredigaeth llanc ifanc sy'n cael anhawster cydnabod ei hoywder tra'n gweithio yn stiward gigs yn Llundain.
Fodd bynnag mae'r digwyddiadau a'r cymeriadau wedi eu codi a'u gosod mewn cymdeithas glos yng ngogledd Cymru - a hynny, yn 么l Bethan, yn dwysau argyfwng y llanc ifanc.
Dywedodd mai ei diddordeb fel dramodydd yw'r hyn sy'n digwydd y tu 么l i ddrysau cauedig a'r gwewyr mewnol y mae rhai yn gorfod ei guddio.
Nid dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ac y mae eisoes wedi gweld perfformio drama o'i heiddo, CRAP, ar gyfer agoriad Oriel yng Nghaernarfon sydd nepell o'i chartref ym Methel.
|
|
|
|
|
|