|
|
|
Ymuno â'r Scarlets Mae'r Urdd wedi ymuno ag un o glybiau rygbi enwocaf Cymru - Scarlets Llanelli - i benodi swyddog datblygu chwaraeon. |
|
|
|
Bydd y Swyddog yn cynnal gweithgareddau rygbi a chwaraeon eraill trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
Ond fel y dywedodd Joanna Marshal o glwb y Scarlets mae gan y tîm gysylltiadau a gogledd Cymru hefyd gan chwarae rhai gemau yn Wrecsam.
Wrth gyhoeddi gwybodaeth am y cynllun dyweddodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, ma'i nod yw codi safonau rygbi yn yr ardal a chynnig cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg.
"Mae'r Urdd a'r Scarlets wedi cydweithio yn y gorffennol. Ar gaeau'r Strade yn Llanelli y cynhelir Gŵyl Rygbi flynyddol yr Urdd," meddai Efa Gruffudd Jones.
Ac meddai Joanna Marshal: "Mae llawer o'n chwaraewyr ni wedi bod yn aelodau o'r Urdd ac mae nifer o'n chwaraewyr yn medru Cymraeg hefyd."
Mae'r Urdd eisoes wedi bod yn cymryd camau breision ar y meysydd rygbi gyda 140 o dimau yn cymryd rhan yng ngŵyl rygbi'r mudiad eleni a chyda mwy o gystadleuwyr nag erioed o Ogledd Cymru.
"Oherwydd llwyddiant yr Ŵyl Rygbi, cafodd yr Urdd wahoddiad eto i fynd â thîm i gystadleuaeth seithiau Dubai am yr ail flwyddyn, ac mae wrthi'n dewis sgwad genedlaethol i gynrychioli Cymru yno," meddai Efa Gruffudd Jones.
Mae'r Urdd hefyd wedi ennill gwobr ranbarthol gan Sportsmatch Cyngor Chwaraeon Cymru am y cynllun datblygu chwaraeon gorau yn y gymuned, mewn partneriaeth â'r Principality.
"Un arall o gynlluniau cyffrous yr Urdd dros yr haf fydd yr Wythnos Hyfforddi Chwaraeon yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Bydd hyfforddwyr a chwaraewyr y Scarlets a sêr eraill yno i gynorthwyo plant 9-12 oed i wella eu sgiliau mewn sawl camp.
"Bydd deugain o bobl ifanc 16-19 hefyd yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddod yn hyfforddwyr chwaraeon ac yn cynorthwyo gyda threfniadau'r wythnos," ychwanegodd Efa Gruffudd Jones.
Ac meddai Gary Lewis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru: "Does dim yn well na gweld plant a phobl ifanc yn gwella eu hiechyd, eu sgiliau chwaraeon a'u Cymraeg ar yr un pryd a thrwy ein cynlluniau newydd, ry'n ni'n gobeithio y bydd modd i fwy a mwy o blant a phobl ifanc fanteisio ar y profiadau."
|
|
|
|
|
|