|
|
|
Diwrnod cyntaf da Dwy fil yn fwy na'r llynedd |
|
|
|
Cafodd Eisteddfod yr Urdd yr hwb yr oedd y trefnwyr yn gobeithio amdano ar y diwrnod cyntaf gyda dwy fil yn fwy na'r llynedd yn dod yno.
Ac yr oedd pob arwydd ar y diwrnod cyntaf fod yr arbrawf yng Nghaerdydd ar y ffordd i fod yn llwyddiant.
Nid yn unig yr oedd cyffro ar y maes o gwmpas Canolfan y Mileniwm ond yr oedd bwrlwm rhyfeddol yn y cyntedd hefyd wrth i blant, ymwelwyr a chystadleuwyr wau drwy'i gilydd gydag hyd yn oed ambell i berfformiad byrfyfyr.
Yn eu plith yr oedd Catherine Ayers, un o s锚r y cyngerdd agoriadol, gan ddenu edmygedd sicr yr ymwelwyr.
Yn 么l y ffigurau swyddogol bu 21,382 o ymwelwyr a hynny ddwy fil yn fwy nag a ymwelodd a Maes Mona, Sir F么n y llynedd.
Meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig i agor yr Eisteddfod. Mae'r maes wedi bod yn llawn cyffro a bwrlwm o ben bore gyda phobl yn heidio i lawr i'r Bae i ymweld 芒'r maes unigryw hwn.
Nid yn unig fod Theatr ysblennydd Donald Gordon wedi bod dan ei sang ers y gystadleuaeth gyntaf ond mae pobl wedi bod yn tyrru i mewn i'r cynteddau i sicrhau eu sedd er mwyn gwerthfawrogi y wledd hon o ddiwylliant a thalent ieuenctid Cymru ar ei gorau."
Yn wir fel ag yr oedd pobl yn dod allan o'r neuadd yn dilyn y brif seremoni yr oedd y grisiau at y drysau yn orlawn o gynulleidfa newydd yn ceisio mynediad.
|
|
|
|
|
|