Plant ar goll Ni fydd yn rhaid poeni am blant yn mynd ar goll yn yr Eisteddfod eleni.
Cafwyd sicrwydd gan yr Urdd na fydd yn rhaid poeni am blant yn mynd ar goll yn yr Eisteddfod eleni.
"Diolch i'r Urdd a'r cwmni cyfathrebu, StrataMatrix, bydd plant sy'n ymweld 芒'r Eisteddfod eleni yn derbyn breichledau am ddim i'w gwisgo, gyda rhif llinell gymorth arnynt i alw am gymorth os byddant yn mynd ar goll," meddai Cyfarwyddwr StrataMatrix Dawn Havard.
"Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn torri tir newydd rydym yn awyddus i blant o bob rhan o Gymru deimlo'n ddiogel mewn amgylchedd trefol yn yr Eisteddfod eleni", meddai.
Bydd y plant yn derbyn y breichledau wrth gyrraedd yr Eisteddfod.
Croesawodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau yr Urdd, y cynllun.
"Gall rhieni ac athrawon fod yn dawel eu meddwl ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ymweliad 芒'r Eisteddfod yn brofiad diogel a chofiadwy," meddai.
Disgwylir tua 120,000 o ymwelwyr 芒'r Eisteddfod.
Sefydlwyd StrataMatrix fel y cwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf yng Nghymru ym 1979 ac ar ddechrau cyfnod newydd yn ei hanes mae'n dylunio delwedd newydd ac yn lansio gwefan newydd.