³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Gŵyl Feithrin
Bydd Gŵyl y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael ei lansio gan Triongl yn yr Eisteddfod.
Y tywydd a'r tymhorau yw thema'r ŵyl eleni ac ym mhabell y Mudiad yn yr Eisteddfod bydd arddangosfa o waith plant sy'n mynychu cylchoedd meithrin yng Nghaerdydd.

Bydd Triongl - grŵp sy'n ymddangos ar y rhaglen Triongl ar Planed Plant Bach - yno am dri y pnawn Llun i roi cychwyn i ŵyl sy'n cael ei chynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod tair wythnos olaf Mehefin.

"'Bwriad yr ŵyl yw dathlu'r holl waith da a wneir yn ein holl gylchoedd meithrin," meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata'r Mudiad.

Bydd pob cylch meithrin a chylch Ti a Fi wedi derbyn pecyn o adnoddau ar y thema sy'n cynnwys llyfr gweithgareddau i'r arweinydd, llyfr lliwio i'r plant a ddyluniwyd gan S4C ac sy'n cynnwys lluniau o gymeriadau Planed Plant Bach a CD o ddeg o ganeuon Cymraeg i blant gan Triongl.

Ymhlith gweithgareddau yr Ŵyl Feithrin bydd gynnwys picnic i fil o rieni a phlant o gylchoedd meithrin ardal Caerdydd â Sain Ffagan (Mehefin 15) gyda'r gantores Gwenda Owen.

Yna, bydd tua mil o blant o gylchoedd meithrin Ceredigion yn ymweld â Phentre Bach, cartref Sali Mali ym Mlaenpennal (Mehefin 13 - 16, 20 - 24, 27 a 30) a bydd ras falŵns yn Rhydaman.

Mae tua 550 o gylchoedd meithrin yng Nghymru a 450 o Gylchoedd Ti a Fi.




About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý