成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

成人论坛 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dafydd Iwan Caerdydd - nid ni a nhw
Galw am wneud Caerdydd yn brifddinas i fod yn falch ohoni
Ap锚l am iddi beidio a mynd yn frwydr rhwng gweddill Cymru a Chaerdydd oedd un Dafydd Iwan, un o lywyddion dydd Gwener yn yr Eisteddfod.

"Mae'n bwysig, lle bynnag yr ydym yn byw ein bod yn ymfalch茂o yn llwyddiant Caerdydd sydd yn byrlymu o fywyd ac o gyffro," meddai.

"Does dim rhyfedd ei bod yn denu pobl ifainc - ymfalch茂wn mewn prifddinas y gallwn fod yn falch ohoni," meddai.

"Nid mater o Gaerdydd yn erbyn y gweddill ddylai hi fod," meddai.

Cymeradwyodd y syniad o'r naill yn bwydo oddi ar y llall a chynnal ei gilydd a'r syniad o bobl ifainc wedi elwa ar brofiadau yng Nghaerdydd ac yn eangach yn dychwelyd i'w cymunedau.

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd symud swyddi da o Gaerdydd er mwyn atgyfnerthu'r cymunedau gwledig.

Ond tra'n dweud y dylai Cymru gyfan ymfalch茂o ym mwrlwm a chyffro ei phrifddinas dywedodd ei bod yn bwysig hefyd fod swyddi'n cael eu symud o Gaerdydd er mwyn atgyfnerthu'r cymunedau gwledig.

Serch hynny, rhybuddiodd nad prinder gwaith yw problem yr ardaloedd gwledig bellach ond prinder pobl gyda llai o enedigaethau a'r ffaith fod pobl yn byw yn h欧n yn creu cymdeithas anghytbwys.

"Ond wrth symud swyddi da da yno bydd pobl yn eu dilyn gan greu awyrgylch lle bydd sector breifat a chyhoeddus yn llwyddo," meddai.

Mwy o wybodaeth am lywyddion y dydd



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy