|
|
|
Steddfod heb faes Ymhell cyn i'r drysau agor bu Eisteddfod yr Urdd 2005 yn cael ei galw yn arloesol. |
|
|
|
Beth bynnag am hynny, mae hi'n sicr o fod yn wahanol - yn amddifad o faes yn yr ystyr arferol a chyda'r prif weithgareddau o fewn neuadd fwyaf newyddCymru.
Bydd yn brofiad anhygoel i'r 15,000 o gystadleuwyr a enillodd eu lle yn dilyn gornestau mewn eisteddfodau cylch a sir yn awr i gystadlu ar lwyfan anhygoel Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Pentref celfyddyd Bydd yr Urdd yn gwneud defnydd hefyd o holl ardal hyfryd y bae o gwmpas y ganolfan er mwyn creu yr hyn sy'n cael ei alw yn "rhyw fath o bentref celfyddydol sy'n arddangos y gorau o ddiwylliant ieuenctid Cymru".
Bydd rhai o ffyrdd yr ardal wedi eu cau i drafnidiaeth yn ystod yr wythnos er mwyn creu maes diogel a'r strydoedd hynny - ar hyd yr ardal sy'n ymgorffori Plass Roald Dahl, y rhodfa ger y d诺r, y Tiwb a'r Eglwys Norwyeg- yn llawn stondinau, arddangosfeydd, perfformwyr a dawnswyr.
Bydd sinema'r UCI hefyd yn rhan bwysig o'r 'maes' eleni gan mai yno y bydd y rhagbrofion, gyda chyfle hefyd i fanteisio ar yr holl adnoddau parod sydd yno.
Lle i barcio Bydd maes parcio dros dro ar safle Awdurdod Datblygu Cymru ar ochr ddwyreiniol y Bae, a chodir pont i gludo cerddwyr o'r maes parcio dros yr harbwr i ganol gweithgareddau'r Eisteddfod.
Yn amlwg bydd parcio yn her ac yn barod mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi galw ar bobl leol ac eraill i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr Eisteddfod.
"Wedi'r cyfan, mae digonedd o ddewis - yn drenau, yn fysiau, a hyd yn oed bysiau d诺r ac yr ydym yn apelio am i bawb eu defnyddio er mwyn lliniaru llif y drafnidiaeth" meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.
"Bydd maes Eisteddfod 2005 dipyn yn wahanol i unrhyw faes arall a byddwn yn defnyddio holl gyfleusterau'r safle gwych yma yn y Bae i gynnig profiad unigryw i bawb," meddai.
|
|
|
|
|
|