|
|
|
Canu clodydd trydydd tlws Trydydd tro - goeliwch chi - yn brif gyfansoddwr yr Urdd |
|
|
|
Am y trydydd tro, enillwyd Tlws Prif Gyfansoddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan Owain Llwyd.
Yn aelod o Aelwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor mae o hefyd wedi ennill tlws y cerddor ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Ar 么l ennill Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2002 aeth yn ei flaen i ennill Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003; Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n 2004, Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004 ac yna, dychwelyd n么l i Gaerdydd i gyflawni'r gamp eto eleni.
Daw Owain Llwyd o Lyndyfrdwy, ger Corwen, Sir Ddinbych, ac roedd yn dathlu carreg filltir bwysig arall yr wythnos hon gyda'i ben-blwydd yn 21.
Mae ar fin graddio o Brifysgol Cymru, Bangor gyda BMus ac yn bwriadu dychwelyd yno i barhau gyda'i astudiaethau mewn cyfansoddi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar 么l derbyn ei wobr nos Wener dywedodd fod ei ddiolch yn bennaf i'w rieni a'i frawd, Aled, am eu holl anogaeth a'u cefnogaeth.
Ond eangodd y rhwyd i gynnwys ei ffrindiau a'i holl athrawon yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy, Ysgol Y Berwyn Y Bala a'r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor.
Ar gyfer y gystadleuaeth eleni cyfansoddodd ddarn ar gyfer cerddorfa lawn, Y M么r Celtaidd.
Fe'i seiliwyd ar linell felodaidd, cyfres o harmon茂au cordiol a thema benodol gan ddefnyddio technegau cyfansoddi, cantus firmus a talea.
Dywedodd i'r rhythm ddod o Jig Gymreig, Jig Owen, sy'n seilio strwythur y darn ond nad yw byth yn cael ei glywed.
Cyfansoddwyd y gwaith yn wreiddiol fel darn ar gyfer wyth o offerynnau (chwythbrennau a llinynnol) adref yng Nglyndyfrdwy yn 2004.
Eleni, aeth ati i osod y darn ar gyfer cerddorfa lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon. Dylanwadau cerddorol ar y gwaith yw cyfansoddwyr megis Debussy, James Macmillan a John Adams.
Ef aeth a'r ail wobr yn y gystadleuaeth hefyd, gydag Eilir Owen Griffiths o Aelwyd CF1, Gorllewin Caerdydd yn drydydd.
|
|
|
|
|
|