|
Cafwyd teyrnged gofiadwy i ddramodwyr a'r theatr yn ystod seremoni Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd.
Aeth yr actor Daniel Evans ati i ateb ei gwestiwn pryfoclyd ei hun, "Pam gwobrwyo dramodydd?", ar gychwyn y seremoni gan ddadansoddi nid yn unig bwysigrwydd ond grym y theatr - hyd yn oed y dyddiau hyn pan yw'n ymddangos mai ffilm a theledu yw'r meistradoedd.
Dyma a ddywedodd: "Pam gwobrwyo dramodydd? Yn wir, pam ysgrifennu drama o gwbl?
Wrth gwrs, dywed Shakespeare mai pwrpas drama oedd "dal drych, fel tae, i natur" ac mai "byr a chynhwysfawr groniclau'r dydd" oedd actorion.
Ond yn ein hoes amlgyfryngol ni o ffilm a theledu - dau gyfrwng sy'n addo arian mawr - y chwaer dlawd yw'r theatr wastad.
Ac eto, tystia y protestio a fu yn Theatr y Birmingham Rep ddechrau eleni fod gan theatre bwer a grym - y tu hwnt i'r cyfryngau eraill efallai.
Pigo cydwybod ac ysgwyd enaid cymdeithas fu hanes y theatre erioed.
Pan adawodd Nora ei Th欧 Dol, yn nrama Ibsen, dywed rhai yr atseiniai clep y drws ar draws Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyd.
Yn wir, haws gennym oddef them芒u a stori芒u ar ffilm, teledu a radio nag y gallwn yn y theatr. Pam?
Wel, rwyf am ddadlau nad yn unig y ffaith mai hen, hen, gyfrwng yw'r theatr, cyfrwng sydd yn pontio swydd y cyfarwydd yma yng Nghymru yn y canol oesoedd a'r Groegiaid yn eu masgiau ar ddechrau gwareiddiad, ond am mai cig a gwaed yw actorion.
Wrth eu gwylio yn trawsnewid eu hunain o flaen ein llygaid, wrth iddynt ddadlennu darnau o'u hunain er mwyn ein diddanu, ein profocio neu'n symud, y ffaith ein bod ni gynulleidfa yn yr un ystafell, wedi'n gwneud o'r un defnydd a'r actorion, sydd yn rhoi i'r theatr ei hunigrywiaeth a'i dynoliaeth.
Felly, gwobrwyed dramodwyr - yn enwedig rhai ifanc.
Y rhain fydd yn dal y drych i natur ein hoes ni," meddai. Ennill y Fedal Ddrama
|
|