|
|
|
Neges Agor Drysau Neges Ewyllys Da yn tynnu sylw at y digartref |
|
|
|
Yn y llun: Laura Davies, Llinos Roberts, Owen Llywelyn, Shelter, Hannah Crowley, Owen Vaughan, Sian Llewelyn Jones.
C芒r dy Gymydog oedd thema neges ewyllys da yr Urdd o lwyfan yr eisteddfod bnawn Mercher.
Yn canolbwyntio ar broblemau bod heb gartref cafodd ei llunio mewn cydweithrediad 芒'r mudiad Shelter
A dyma'r tro cyntaf erioed i'r neges ewyllys da, a ddarlledwyd gyntaf yn 1922, gael ei llunio gan ddysgwyr Cymraeg - disgyblion o Ysgol Gyfun Treorci, y Rhondda.
"Mae'r neges eleni yn gyfle i edrych ar nifer o'r rhesymau sydd yn achosi i bobl fod yn ddigartref yng Nghymru a Thramor ac yn gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifainc o effeithiau niweidiol digartrefedd ymhlith plant a phobl ifainc," meddai Llinos Roberts, swyddog cyd-ddyn a Christ yr Urdd.
I'r Cynulliad Y mae rhai wythnosau er pan gyflwynodd deugain o ddisgyblion Treorci y neges i aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol ond daeth cyfle i gyfarch cynulleidfa fwy oddi ar lwyfan prifwyl yr Urdd bnawn Mercher.
"Roedd y materion sy'n cael eu codi yn y neges yn adlewyrchu gwir bryderon pobl ifainc Cymru," meddai Llinos Roberts gan ychwanegu y bydd yn gychwyn ymgyrch a elwir yn Agor Drysau i ddysgu pobl ifainc am broblemau bod heb gartref a phroblemau gorfod byw mewn tai gwael yng Nghymru.
Ffeithiau brawychus Ymhlith y ffeithiau brawychus a ddaeth i'r amlwg yn sgil ymgyrch Agor Drysau datgelwyd fod dros 98,000 o dai anaddas yng Ngymru ac hyd at 50,000 o blant yn byw mewn tai gwael lle maen nhw mewn perygl o ddioddef oddi wrth glefydau fel asthma.
Yn waeth byth, mae hon yn broblem sy'n gwaethygu yn 么l neges disgyblion Treorci.
"Mae llawer o bobl yn byw allan ar y stryd ac o leiaf 1,795 o blant dibynnol yn byw mewn llety dros dro," meddai'r neges.
"Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn wynebu cael eu troi allan o'u cartref am eu bod 芒 dyled rhent," ychwanegwyd.
Dywedwyd na all person sy'n gorfod byw ar y stryd fyw yn llawer hynach na 42 oed, ar gyfartaledd.
"Bydd Agor Drysau yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai, derbyn hyfforddiant, trefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac yn cefnogi ap锚l Agor Drysau, a gweithdy cynradd arbennig yn edrych ar y cartref," meddai Llinos Roberts.
|
|
|
|
|
|