Dewch at eich gilydd...
Bant a fi i'r gynhadledd Lafur felly ac ar ôl misoedd o ddyfalu mae strategaeth Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn dechrau amlygu ei hun.
Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch pwysigrwydd yr etholiad yma i wleidyddiaeth Cymru. Os ydy Llafur yn colli yng ngweddill y Deyrnas Unedig gellir beio hynny ar y cylchred gwleidyddol. Yma yng Nghymru mae 'na rywbeth mwy sylfaenol yn digwydd gyda chyfres o etholiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu bod platiau tectonig ein gwleidyddiaeth yn symud. Mae'n ddigon posib mae'r etholiad hwn fydd cyfle olaf y blaid Lafur i ail-sefydlu ei goruchafiaeth wleidyddol draddodiadol cyn i batrwm amlbleidiol go iawn sefydlu ei hun.
Mae'n rhaid ysytyried apel Peter Hain am bleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn y cyd-destun hwnnw. Serch hynny mae'n anodd peidio gweld y dacteg fel un cymharol orffwyll.
Y broblem gyntaf yw nad yw Peter yn fodlon cynghori pleidleiswyr Llafur i bleidleisio'n dactegol mewn etholaethau lle nad oes gobaith gan Lafur ennill. Y cwestiwn amlwg yw hwn. Os oes 'na gymaint yn uno "pleidleiswyr blaengar" (chwedl Peter) a chymaint yn eu gwahaniaethu o'r Ceidwadwyr pam nad yw Ysgrifennydd Cymru yn fodlon cynghori cefnogwyr ei blaid i fwrw pleidlais dros Lembit Opik, dyweder neu Roger Williams.
Problem arall yw bod Peter yn ceisio dyrchafu rhywbeth a allai fod yn dacteg ddefnyddiol mewn etholaeth unigol i fod yn strategaeth genedlaethol. Sut mae swyno pleidleiswyr Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin, er enghraifft, a'u colbio yn Llanelli? Fedrwch chi ddim galw pobol yn "flaengar" ac yn "despicable"* (chwedl Nia Griffith) ar yr un pryd.
Ond y broblem fwyaf yw hon. Mae Peter yn cymryd yn ganiataol bod cefnogwyr Plaid Cymru a'r Demcoratiaid Rhyddfrydol, fel eu harweinwyr, yn bobol y chwith. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn wir yn enwedig yn y Gymry wledig. Mae 'na hen ddigon ohonyn nhw sy'n casau Llafur cymaint os nad yn fwy na'r Ceidwadwyr.
*Cyhuddiad "bizarre" yn ol Plaid Cymru. Cwyno oedd Nia bod llun o Ieuan Wyn Jones wedi ymddangos mewn hysbyseb gan lywodraeth y cynulliasd yn y Llanelli Star.