Llywyddwyd y noson gan Lywydd Cylch Cinio Rhydaman, Mel Morgan, Brynaman ac ef a groesawodd aelodau'r ddau Gylch Cinio, eu gwragedd a ffrindiau ar yr achlysur arbennig hwn. Cyfeiriodd y Llywydd yn deimladwy iawn tuag at John Davies, aelod yn y ddau Gylch Cinio, a fu mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau olaf ym marwolaeth ei annwyl briod Mair.
Y Llywydd hefyd a groesawodd ein prif westai a'i wraig, Keith a Meleri Davies, Caerdydd. Brodor o Rydaman yr Keith ac mae'n adnabyddus fel darlledwr cyson ar Radio Cymru. Yn ei anerchiad cyfeiriodd at y dylanwadau a fu arno pan yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Dyffryn Aman, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn athro drama yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth ac yna gyda'r cyfryngau. Cafwyd ganddo anerchiad diddorol a hwyliog.
Bu y noson yn llwyddiant mawr gyda chymdeithasu hyfryd ac mi roedd y bwyd yn flasus. Hyfryd oedd cael prif westai a oedd yn adnabyddus i gymaint. Diolchwyd am y cyfan gan Denzil Davies, Llywydd Cylch Cinio Tyb茂e.
Cynhelir cinio nesaf Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Ebrill 12 yn brydlon am 7.15 o'r gloch pryd y bydd Miss Jane Wyn, Crymych yn brif westai.
|