Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Col. D. Watts-Morgan SOMP ar y 27ain o Ragfyr 1924. Agorwyd y Neuadd yn swyddogol gan Ei Arglwyddiaeth Iarll Cawdor ar
Dachwedd 5ed 1925. Ar y gofeb sydd ym muriau'r neuadd wrth y mynediad ysgrifennir:
'Rhoddwyd safle y neuadd hon a'r maes chwarae cyfagos i gyhoedd Llandybie gan Y Gwir Anrhydeddus John Duncan Vaughan Iarll Cawdor i goffau hunan aberth ysblennydd Gw欧r Llandybie a gollasant eu bywydau yn Y Rhyfel Mawr 1914 - 1919. Agorwyd y neuadd gan Ei Arglwyddiaeth Iarll Cawdor. Tachwedd 5ed 1925'.
Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog llwyddiannus i ddathlu'r achlysur. Dros yr wyth deg mlynedd diwethaf bu llawer iawn o gyngherddau yn y Neuadd, heb s么n am ddram芒u, dawnsfeydd, gemau bingo a phart茂on o bob math - gyda mudiadau y pentref i gyd yn defnyddio'r cyfleusterau.
Ym 1946 agorwyd sinema a mawr oedd pleser y plant o gael y cyfle i weld `Flash Gordon' ar fore dydd Sadwrn, heb orfod mynd yr holl ffordd i'r 'Palas' yn Rhydaman i weld yr anturiaethau diweddaraf!
Cynnal Eisteddfod Genedlaethol arbennig
Efallai mai uchafbwynt hanes y neuadd hyd yn hyn oedd cynnal yr unig Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ym mis Awst 1944. Cofia Mr Eurfyl Davies, Heol Blaenau un noswaith arbennig yn haf cynnes 1944 wrth chwarae yn blentyn yn yr hwyr tu allan i'r neuadd, gyda'r drysau i gyd yn agored, glywed, C么r Byddin Gwlad Pwyl yn canu caneuon gwerin eu gwlad i dorf yr Eisteddfod.
Mae'n si诺r bod llawer o bobl ag atgofion neu luniau o'r neuadd. Da byddai rhannu yr atgofion a'r lluniau gyda darllenwyr Glo M芒n.
|