Yn dilyn y syndod mawr o weld fy enw yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn newydd yn y Western Mail, cefais lythyr ym mis Ionawr i ddweud y byddwn yn cael fy ngwobrwyo 芒'r fedal M.B.E gan naill ai Ei Mawrhydi y Frenhines Elisabeth, neu'r tywysog Charles, tywysog Cymru, ar fore Gwener Chwefror 20fed 2004.Disgwylid i ni fod ym Mhalas Buckingham erbyn deg o'r gloch y bore. Caniatawyd i mi fynd 芒 thri o westeion, a dewisais fy chwaer Bernice, fy mrawd Jac a'i briod Gilda. Rhaid oedd cychwyn brynhawn Iau ac aros dros nos er mwyn bod yn brydlon.
Wedi mynd i fyny'r grisiau 芒'u carped coch rhaid oedd i'r tri droi i'r chwith a minnau i'r dde, i ymuno 芒 thua chant a hanner o bobl eraill o bob rhan o'r wlad. Tywyswyd ni i ystafell, er mwyn cael ein cynghori ar beth ddylem wneud a dweud, yn ogystal 芒 beth na ddylem wneud a dweud! Gosodwyd bachyn ar fy ysgwydd chwith, ac yna i mewn 芒 ni i ystafell odidog wrth ochr yr Ystafell Ddawnsio, ble y cynhaliwyd y gwobrwyo.
Rhaid oedd aros yn amyneddgar am yr amser cychwyn, a oedd yn brydlon i'r funud am un ar ddeg o'r gloch. Wrth edrych o amgylch yr ystafell hardd oedd yn llawn pobol a oedd yn edrych yn dra phwysig a mawreddog, meddyliais i mi fy hun "Sut yn y byd mae 'mwydyn bach' fel fi a anwyd ac a fagwyd mewn fferm unig yn Nhalyllychau, wedi cyrraedd y palas hardd a gogoneddus hwn?"
Daeth y newydd bod y Frenhines wedi gadael am Rydychen y bore hwnnw ac felly Tywysog Cymru fyddai yn ein hanrhydeddu. Mynegodd sawl un siom am golli'r cyfle o gael cwrdd 芒'i Mawrhydi ond fe ddywedais yn hollol ddiffuant, er ychydig yn siomedig, "I don't really mind because I can speak Welsh to Prince Charles" Wrth edrych ar wyneb un neu ddau teimlais eu bod yn meddwl yn dawel 'Stupid old woman'!
O'r diwedd dyma'r ddynes ar yr ochr yn galw fy enw a rhaid oedd cerdded i mewn i'r ystafell ddawnsio, aros y tu mewn i'r drws, a phan glywais fy enw dros y meicroffon, dyma gamu ymlaen hyd nes oeddwn gyferbyn 芒'r Tywysog, troi ato a moesymgrymu (tasg anodd i rywun fel fi i'w chyflawni heb syrthio yn fflat ar fy ngwyneb ar lawr).
Cymerais dri cham i fod o flaen y Tywysog a safai ar y llwyfan isel. Cydiodd yn y Fedal a orweddai ar glustog wrth ei ochr, a'i osod ar y bachyn ar fy siaced. Yna, gan fy mod mor fyr, a chan fod ymyl fy het braidd yn llydan, plygodd i lawr ac edrych o dan yr het er mwyn edrych ym myw fy llygaid wrth sgwrsio 芒 mi. Teimlais naws ostyngedig a diffuant yn ei agwedd a'i ymddiddan. Parodd i mi deimlo mai dim ond fe a fi oedd yno. Nid oedd y dyrfa fawr yn bwysig y funud honno iddo.
Rhaid oedd cadw'r sgwrs yn fyr gan fod cynifer i'w anrhegu. Mynegodd ei werthfawrogiad o waith gwirfoddol dinasyddion wrth estyn ei law (dyma arwydd fod y sgwrs ar ben). Edrychais ym myw ei lygaid gan ddweud "Diolch yn fawr i chi, Syr". Daeth gw锚n lydan ar ei wyneb wrth iddo ddweud yn sydyn "Llongyfarchiadau" a rywsut trodd y w锚n lydan yn w锚n ddireidus ac mi gredaf iddo sibrwd wrtho'i hun "You didn't expect that old girl". Teimlais fwy o wefr wrth ei glywed yn dweud "Llongyfarchiadau" nag wrth dderbyn y fedal! Rhaid oedd cymryd y tri cam tuag yn 么l, moesymgrymu eto, troi i'r dde i fynd i gyfeiriad arall, i eistedd yn y seddau a neilltuwyd i ni.
Ar y ffordd roedd dyn yn aros wrth fwrdd ac arno bentwr o flychau. Cydiodd yn fy medal a thynnu'r bachyn o'm siaced cyn gosod y fedal yn un o'r blychau a'i rhoi i mi. Gofynnodd gwestiwn neu ddau, a cheisiais egluro mewn brawddeg cyn iddo ysgwyd fy llaw a'm llongyfarch.
Ar ddiwedd y seremoni, daeth un g诺r o'r Canolbarth ataf a gofyn "Did you speak Welsh to him?" Pan ddywedais fy stori y cyfan ddwedodd, mewn syndod, oedd "Good Heavens". Teimlais i mi gael "bonws bach" oddi wrth y Tywysog na fyddwn wedi ei gael gan y Frenhines gan nad yw hi'n siarad Cymraeg.
Wrth edrych n么l, rwy'n sylweddoli fwyfwy yr anrhydedd arbennig a ddaeth i'm rhan. Ni fyddwn erioed wedi llwyddo i gyflawni'r gweithgareddau heb gefnogaeth, cymorth a ffyddlondeb fy nheulu, ffrindiau, cyd-aelodau Brig芒d St Ioan, Drama Rhos y G芒r, pobl arbennig Rhydaman ac yn wir, pobol dros ardal eang iawn. Mawr yw fy nyled iddynt oll ond mae fy nyled pennaf i'r Duw a'm creodd ac a roddodd y gallu a'r nerth i mi.
I Dduw bo'r diolch.
Brenda James