Pryd mae e? oedd y cwestiwn cyntaf -Gorffennaf2 8 - Awst 14eg. Colli'r Steddfod! Dim ots, medde chi, ond roedd Elin y ferch hynaf wedi bod yn gweithio'n ddygn gyda phobl ardal Casnewydd yn paratoi ar ein cyfer. Mynd i Affrica? Roedd yn daith bell a minne heb gael profiadau da o deithio pellterau mewn awyren. Gwylie braf medd rhai! Gwyliau, na! Profiad unigryw, dwedodd Dewi. Ie, gwir pob gair. Pythefnos o waith caled, addoli, astudio'r Beibl a thrafod pynciau hanfodol i fod yr Eglwys yn y byd.
Amhosibl cyfleu mewn ychydig ofod yr oll a ddigwyddodd ond soniaf am un profiad - sef y cyfle i fynd allan o Ganolfan y Cyngor a gynhaliwyd ym mhrifysgol Accra yn Ghana dros y Sul i gydaddoli gyda'r trigolion lleol.
Gweddi cyn cychwyn ar y daith, ac roedd ei hangen hefyd gyda'r ffyrdd troellog, tyllog a pheryglus mewn mannau. Teithio drwy drefi a gweld tlodi dychrynllyd. Anghofiwyd am y daith yn fuan oherwydd y croeso twymgalon a dderbyniom.
Roedd eglwysi Ghana wedi bod wrthi yn paratoi ar gyfer y Cyfarfod yma ers tair blynedd ac wedi bod wrthi yn ymarfer caneuon a threfnu'r holl ymweliadau. Tipyn o gamp oedd dosbarthu rhyw bump i chwe chant o gynadleddwyr a'u cludo ar hyd a lled y wlad. Cyrhaeddom y ganolfan yn Abetiffi a chael ein rhoi yng ngofal gweinidogion o'r gwahanol eglwysi - ni'n dau yn mynd gyda'r Parch Kissi i bentref ar ben mynydd - y man uchaf yn Ghana lle mae pobl yn byw - pentref o'r enw Obo.
Gan ein bod ar dir uchel roedd yn dipyn llai twym nag yn Accra a dyna'r unig dro i ni weld glaw yn ystod y pythefnos. Roedd y tyfiant yn gyfoethog ac yn brydferth iawn.Aethom i gartref y gweinidog - Mission House, cael ein gadael am ddwy awr i orffwys mewn stafell - dim ond gwely a matras yno. Yna cael ein cyrchu i gael bwyd a merch ifanc yn gweini arnom ni a'r gweinidog ac un o'r blaenoriaid.
Rwy'n si诺r fod holl lestri'r t欧 ar y bwrdd yn bentwr taclus yn y cornel. Doedd dim cwpwrdd, dim ond bwrdd. Yna dywedwyd wrthym fod pobl yr eglwys wedi penderfynu ein symud i aros gyda'r pen blaenor - dwi'n credu taw oherwydd mai merch oeddwn y gwnaed y penderfyniad. "Mae d诺r gyda nhw" oedd y frawddeg dyngedfennol.
Cyrraedd yno a chroeso mawr - y wraig oedd y Brifathrawes ar ysgol leol i ffwrdd dros nos a'r g诺r yn gofalu amdanom. Byw syml a dweud y lleiaf. Deall trannoeth bod tua 300 o blant yn yr ysgol lle roedd y wraig yn brifathrawes, plant yn gorfod talu am eu haddysg , un llyfr testun rhwng pedwar a phrinder mawr o lyfrau.
Mynd i'r capel erbyn 9 yn y bore. Roedden ni'n cael ein casglu i ddychwelyd i Accra am 12.30 felly roedden nhw wedi penderfynu cwtogi ychydig ar eu cwrdd y bore hwnnw. Cawsom eistedd fel dau frenin a brenhines yn y blaen yn wynebu'r gynulleidfa. Dyma olygfa, capel mawr, ychydig o oriel - dim set fawr - y cyfan yn agored ac yn eithaf di-liw nes bod y bobl yn dod. C么r wedi eu gwisgo mewn cap a gwn ar y chwith i ni a gr诺p o fenywod h欧n, c么r arall ar y dde. Y gynulleidfa - tua deugain ar ddechrau'r cwrdd ond yn ddiweddarach tua roedd yno dros gant a hanner.
Roedd yr amrywiaeth yn y gwasanaeth yn drawiadol nid band un dyn oedd yna fel sy'n gyfarwydd i ni. Canu brwd i ddechrau - dim organ na phiano - dim ond drwm. Un o'r blaenoriaid yn llywyddu'r oedfa a'r aelodau yn darllen - tri darlleniad yn ystod y cwrdd, rheiny wedi'u hysgrifennu ar fwrdd du ar y wal.
Twi oedd iaith frodorol yr ardal, pregethodd Delvi gyda'r Parchedig Kissi yn cyfieithu o'r Saesneg ar thema'r Gynghrair yr adnod o Ioan 10 "llawnder bywyd i bawb" Cefais innau gyfle i ganu emyn Cymraeg.
Canu a dawnsio yn ystod y gwasanaeth. Roedd yn arbennig wrth gyflwyno'r casgliad. Gosodwyd blychau yn y canol - dau, un i'r merched ac un i'r dynion. Yna pan oedd yn amser casglu byddai pawb yn mynd o'i sedd ac yn mynd i gefn y capel a dawnsio lawr yr ale ganol i roi'r casgliad. Y bore hwnnw roedd na dri chasgliad - un ar gyfer yr eglwys, un oherwydd ei bod yn Wythnos Iechyd Genedlaethol yn y wlad a un arall ar gyfer cleifion y capel.
Ar ddiwedd y cwrdd roeddent yn cyhoeddi beth oedd cyfanswm pob casgliad - y merched a'r dynion ar wah芒n. Anghofia'i byth mo'r w锚n o lawenydd oedd ar eu wynebau wrth offrymu'r casgliad. Cawsom gyfle i rannu rhoddion, calendr ag adnod ar gyfer pob dydd arno i'r Mans ac i'r cartref a bag Cymru a chwpan 芒'r cwlwm Celtaidd arno i'r eglwys, y cyfan o Fyd y Siopwr, Rhydaman. Cawsom ninnau lun bach o'r capel a th欧'r gweinidog i'w gadw. Mae'n debyg pe baem yn dychwelyd ymhen pum mlynedd neu fwy, mwy na thebyg y byddai'r calendr yn dal ar y wal, er mwyn y llun. Efallai bod hynny yn egluro'r rhes o ddarluniau oedd yn hongian ar dop y wal yng nghartref ein gwestai - yn rhy bell i fyny i ni allu gweld yr un ohonynt!
Dyma ninnau yn addoli gyda rhan arall o deulu Duw, teulu a fydd gyda ni weddill ein dyddiau. Ninnau yno o wlad gyfoethog, faterol y Gorllewin, a hwythau o ganol eu tlodi yn esiampl i ni o lawenydd.
Gan bwy mae llawnder bywyd, ni yn ein cyfoeth a'n diflastod yn aml, neu nhw yn eu tlodi llwm a chyda gw锚n a dawns mor aml? Mae gennym lawer i'w roi a llawer i'w dderbyn!
Annette Hughes