Bu pobl y pentref yn aros yn eiddgar ers hydoedd i weld beth yn union oedd wedi bod yn mynd ymlaen tu mewn i furiau'r hen ysgol lle cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu cyflwyniad cyntaf i fyd addysg ac, yn 么l y rhai a ddaeth yno yn ystod yr wythnos agoriadol, roedd hi'n anodd credu bod y fath drawsnewidiad yn bosibl. Lle'r oedd pum ystafell ddosbarth, ystafell y brifathrawes/athrawon, ystafelloedd dillad/toiledau a choridor llydan o'r blaen mae yna nawr Ganolfan feddygol, lyfrgell, dwy ystafell aml bwrpas, caffe a thoiledau moethus. Lle'r oedd ty'r boiler, ac mewn estyniad allan i ran o'r iard, mae derbynfa eang a swyddfa. Mae cwmni TRJ yn parhau 芒'r gwaith ar y maes parcio i staff a'r anabl sydd yn y gweddill o'r hen iard a phan gwblheir hwnnw fe ddaw'r Agoriad Swyddogol. Fe gafodd y pentrefwyr wasanaeth ffyddlon yn yr hen lyfrgell a'r feddygfa ar Hewl Stesion dros y blynyddoedd ond nawr, gyda'r Ganolfan hon - a wnaiff gynnig gwasanaeth bendigedig i'r dyfodol - fe gamwyd i mewn i oes a mileniwm newydd. Mae'n wirioneddol werth ei gweld. Ond, er bod y Ganolfan wedi agor - y llyfrgell, y dosbarthiadau, Cylch Ti a Fi a'r caffe y cwestiwn mawr ar wefusau pawb yw "Pryd mae'r syrjeri'n mynd i agor?". Yn anffodus 'does dim ateb ar gael i'r cwestiwn hwnnw hyd yn hyn. Mae un peth yn siwr - mae pobl Brynaman wedi hen laru ar orfod teithio i'r Waun neu'r Garnant ers i Dr. Rahmann ymddeol ac yn dra awyddus i allu cael gwasanaeth meddygol yn eu pentref eu hunain unwaith eto. Brysied y dydd. Bob dydd Mercher bydd Mrs Susan Crossman Jones yn cynnal dosbarthiadau Arlunio 10 - 12 y bore a Mrs Bethan Hogan a dosbarth Cyfrifiaduron i ddechreuwyr o 1 - 3 o'r gloch y prynhawn. Bwriedir cynnal dosbarth Cymraeg i Ddysgwyr hefyd. Os bydd gyda chi ddiddordeb mewn dod i un o'r dosbarthiadau yma cysylltwch ag Adrienne Bedington ar 823162. Oriau agor y llyfrgell fydd: - Llun 9.30 - 12.00 a 3.00 - 5.00 Mercher : 10.00 - 12.00 a 3.00 - 5.00 Iau : 5.30 - 7.00 yr hwyr. Cofiwch alw i mewn i'n gweld.
|