Cafwyd digwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan ac er gwaetha'r glaw, fe fentrodd nifer fawr o bobl allan i fwynhau gwledd o weithgareddau ac atyniadau. Yn dilyn llwyddiant G诺yl Hwyl 2006 a gafodd ei sefydlu gan bwyllgor o wirfoddolwyr Clwb Rygbi'r Aman roedd eleni'n dipyn o sioe gyda nifer o weithgareddau at ddant pawb.
Eleni, bu'r clwb a Menter Bro Dinefwr yn cydweithio ar y trefniadau a braf oedd gweld y berthynas yn datblygu gyda phenwythnos hynod o lwyddiannus.
Ar y nos Wener, cynhaliwyd disgo ar gyfer plant Ysgol y Bedol o dan arweiniad Menter Bro Dinefwr, a hyfryd oedd gweld tua chant a hanner o blant yn dawnsio i gerddoriaeth fodern a Chymraeg a phob un wedi mwynhau'r noson. Yn y babell ar y cae rygbi, cynhaliwyd cinio Clwb Rygbi'r Aman yng nghwmni Mervin Davies.
Cafwyd ocsiwn lwyddiannus a pherfformiad unigryw ac arbennig gan y diddanwr Billy Davies. Bu'r noson yn llwyddiannus iawn a hoffai'r clwb ddiolch yn fawr i bawb a fynychodd am eu cefnogaeth.
G诺yl Rygbi i blant dan wyth oed oedd uchafbwynt dydd Sadwrn gyda 8 o dimau yn cymryd rhan a phob un yn brwydro am le yn y rownd derfynol. Y ddau d卯m a ddaeth i'r brig oedd Cefneithin a Phontiets gyda Chefneithin yn ennill. Ym mhen arall y cae, cynhaliwyd sioe geffylau a chafwyd reidiau ffair gyda nifer o bobl yn mynd adref 芒 physgodyn aur! Cafwyd cerddoriaeth gan fand pres Gwaun Cae Gurwen a gwerthwyd raffl er mwyn ennill p锚l rygbi wedi ei harwyddo gan unrhyw un o'r t卯mau rhanbarthol.
Carem ddiolch yn arbennig hefyd i Rhys Jones a holl staff Uned Ieuenctid y Cyngor Sir am drefnu i ddod 芒 wal ddringo i'r cae yn ogystal 芒'r Sgarlets a'r Gweilch am gyfrannu gwobrau ar gyfer y raffl.
Cafwyd sioe arbennig iawn ar y nos Sadwrn wrth i Elin Fflur a'r Band, The David Millie Band ac Amheus ddiddanu cynulleidfa o tua cant a hanner o bobl ac roedd yn wych i weld cymaint o bobl ifanc yr ardal yn mwynhau.
Daeth y gweithgareddau i ben ar y dydd Sul gyda thwrnament p锚l droed ar y cae rygbi. Bu sawl t卯m yn cystadlu'n frwd ac wedi'r rownd derfynol rhwng Aman Unedig a th卯m Cwmaman, t卯m yr Aman ddaeth i'r brig.
Wrth i'r cystadlu dynnu at ei derfyn cafwyd adloniant yn y babell gan G么r Meibion Dyffryn Aman a pherfformiad unigryw gan Eifion Price a Ceri Jones o'r gr诺p poblogaidd Jac y Do. Gwerthwyd tocynnau raffl yn ystod y prynhawn gyda Wyn Jones yn ennill p锚l rygbi o'i ddewis wedi ei harwyddo. Cyflwynodd ei wobr i'r clwb fel rhodd. Carwn ddiolch yn arbennig iddo gan y bydd y b锚 yn cael ei gwerthu mewn ocsiwn gyda'r elw yn mynd at y Clwb.
Gyda'r hwyr daeth yr 糯1 i fwcwl gydag adloniant gan Fand Karl Nottingham. Bu'r 糯l yn llwyddiant ysgubol a braf yw geld perthynas agos yn datblygu rhwng Menter Bro Dinefwr a Chlwb Rygbi'r Aman. Hoffai staff y Fenter ddiolch o galon i staff y clwb ac i'r holl wirfoddolwyr am y croeso cynnes a estynnwyd yn ystod y cyfnod o dan sylw. Edrychwn ymlaen at 糯yl lwyddiannus yn 2008!
|