Rhyfedd meddwl i hyn ddigwydd ar 31 Hydref 2007, 35 o flynyddoedd i'r diwrnod y curodd crysau cochion Llanelli grysau duon Seland Newydd ar Barc y Strade.
Y diwrnod canlynol ar 1 Tachwedd fe gafwyd deyrngede lu iddo fe. Roedd hi'n ddiwrnod dathlu pen blwydd S4C yn 25 mlwydd oed. Cyfrannodd Grav gymaint i fyd y b锚l hirgron ac i ddarlledu yng Nghymru, ac er iddo deithio i bellteroedd byd yn sgil y ddeubeth yma, boi ei filltir sgw芒r oedd Ray.
Ffigwr eiconig
Siaradai byth a beunydd am Fynydd y Garreg ac o barch i'w bentref genedigol dewisodd yr enw "Ray o'r Mynydd" fel ei enw yn yr Orsedd. Fe oedd Ceidwad y Cledd, diolch i weledigaeth y Prifardd Dafydd Rowlands. O safbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol roedd yn ffigwr eiconig. Ym mhob gorymdaith gwnaeth ei waith gydag urddas.
Roedd yn gymeriad llawn a lliwgar. Fe frwydrodd mor ddewr dros y chwe mis diwetha' wedi iddo dderbyn llawdriniaeth go eger o ganlyniad i glefyd y siwgr. Er iddo golli ei goes ni laddwyd ei agwedd bositif tuag at fywyd. Gwellodd yn ddigon da i ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin - y sir a garai gymaint, a braf oedd gweld ymateb y dorf i'w ymddangosiad. Roedd gan bawb air da am Grav.
Roedd yn Gymro o'i gorun i'w sawdl, yn wir roedd yn llawenhau yn ei Gymreictod ac yn rhannu hyn gydag eraill. Roedd yn gennad da i'r iaith Gymraeg ac yn Gymro cynhwysol a defnyddiol a ymhyfrydai yn niwylliant ein gwlad. Un o' i arwyr pennaf oedd Owain Glynd诺r ond y gwir yw fod dylanwad Grav wedi ei wneud ef ei hun yn arwr i lawer.
Cawr o ganolwr
Yn anterth ei yrfa fel chwaraewr rygbi roedd yn gawr o ganolwr ond o dan yr wyneb roedd yna berson sensitif a hynaws yn cuddio. Tra'n chwarae dros ei wlad roedd yn aelod hoffus o'r garfan. Fe hefyd oedd diddanwr y t卯m gan wybod bob gair o bob c芒n a 'sgrifennodd Dafydd Iwan. Yn ddiweddarach fe ddaeth y ddau yn ffrindiau mawr, ac fe ysgrifennodd Dafydd englyn coffa iddo:
Canaf i Raymond Gravell - y corwynt
Cywiraf ei anel,
Diolch a wnaf yn dawel
I wir ffrind - a, Ray, ffarwel.
Roedd ei gartref a'i deulu'n bopeth iddo. Diolchai'n gyson am deyrngarwch Mari ei wraig tra bu' n wael yn yr ysbyty a phob tro y byddai' n cyfeirio at y merched, Manon a Gwenan, roedd gw锚n ar ei wyneb. Mae ein cydymdeimlad 芒 nhw' n ddidwyll.
Er ei hoffter o'i gartref roedd ganddo ail aelwyd - Parc y Strade. Yn Llywydd y Sgarlets braf oedd clywed y to ifanc yno' n s么n amdano fel ffrind da a'u hysbrydolodd i roi o'u gore. A fanno fydd y gwasanaeth angladdol. Yn wir ni fyddai'r un capel yn ddigon mawr i ddal y gynulleidfa.
Pan feddyliwn am Fynydd y Garreg fe wyddom mai fan hyn bu Ray yn chwarae' n blentyn ac roedd yn para i gerdded y llwybrau. Tristwch pellach felly oedd ei farw mewn gwlad estron. Mor briodol yw'r cwpled o un o englynion coffa Hedd Wyn:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.
Coffa da amdano fe ond mi fyddwn yn para i glywed ei lais am flynyddoedd yn datgan "West is Best".
Mwy am Ray Gravell Teyrngedau i Ray Gravell
|