Bu'r staff wrthi'n brysur ers wythnosau yn paratoi, a'r disgyblion gweithgar yn cyfansoddi barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ymarfer eu llawysgrifen a chyflawni campweithiau celf a chrefft yn ogystal a dysgu caneuon, darnau barddoniaeth a dawnsfeydd newydd.
Roedd y plant o'r lleiaf i'r hynaf wrth eu bodd yn cystadlu a'u perfformiadau graenus wedi diddanu pawb. Rydym fel ysgol yn ddyledus i'r beirniaid Mrs Rachel Arnold (beirniad llawysgrifen), Mrs Eira Davies (beirniad barddoniaeth a rhyddiaith), Mrs Gill Evans (beirniad llawysgrifen). Mrs Olwen Richards (beirniad canu), Mrs Maijorie Rogers (beirniad llawysgrifen a chelf) a Mrs Ann Thomas (beirniad llefaru). Rydym yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd a'u parodrwydd i gynorthwyo'r ysgol bob amser.
Bu'r cadeirio a'r coroni yn llwyddiant mawr a nifer o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y seremoni. Y ffanfferwyr eleni oedd Cai Glover, Morgan Hill, Elis Jenkins, Gwaredd Jones, Rhys Owen, Cellan Wyn a Sion Wyn (disgyblion blynyddoedd 5 a 6). Tywysyddion enillwyr y gadair a'r goron eleni oedd, Alex Naiomi ac Owain Morgan, ac Elan Daniels a Ll欧r Morgan (disgyblion blwyddyn 4). Cyflwynwyd y gadair a'r goron i'r buddugwyr gan Mrs Jean Huw Jones, ffrind ffyddlon a hael i'r ysgol.
Enillydd y goron eleni oedd Mabli Pritchard, ac enillydd y gadair oedd Ioan Llyr Thomas.
Fel arfer roedd cystadlu brwd rhwng y tri llys eleni eto sef Llys Llywelyn Fawr, Llys Owain Glynd诺r a Llys Hywel Dda, ond y llys buddugol eleni oedd Llys Llywelyn Fawr.
Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion oll am eu cyfraniadau.
Mae cyfansoddiadau enillydd y gadair a'r goron i'w gweld yn rhifyn mis Mawrth o Glo M芒n.
|