Ffair Hen Bethau
Yn neuadd y Pensiynwyr ar brynhawn ddydd Gwener yr 22ain o Chwefror cawsom y pleser o groesawu Dr. Felix Aubell ar gyfer y ffair hen bethau. Nod y prynhawn oedd i gael y cyhoedd i ddod mewn 芒'u hen bethau er mwyn cael eu prisio ac yna cael sgwrs a gwybodaeth yngl欧n 芒 hen bethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Braf oedd cael gweld digwyddiad yr ydym i gyd mor gyfarwydd o'i weld yn Saesneg ar y teledu (megis rhaglenni fel yr Antiques Roadshow) yn digwydd yn lleol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Can i Gymru
Fe aeth llond bws o ardal Llandeilo a Rhydaman i'r Afan Lido ym Mhort Talbot nos Wener Chwefror 29ain ar gyfer cystadleuaeth C芒n i Gymru. Cafwyd noson hwyliog iawn a braf oedd mynd i gefnogi Llew Davies swyddog ieuenctid y Fenter a oedd yn cystadlu gyda'r gr诺p o Rydaman Eskimo.
Sioe Stryd G诺yl Ddewi
Ar ddydd Sadwrn Mawrth 1af cynhaliwyd sioe stryd yn stryd y Cei, Rhydaman i ddathlu G诺yl Ddewi. Cafodd y diwrnod ei drefnu gan y Fenter, Cynllun Gweithredu Iaith Rhydaman a TWF. Daeth Jac y Do, Dawnswyr Penrhyd a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman i ddiddanu'r gynulleidfa a braf oedd gweld gymaint o bobl wedi dod i gefnogi.
Twrnamaint Chwaraeon
Cynhaliwyd twrnamaint Criced Cyflym blynyddol y Fenter ar ddydd Mercher Mawrth 12fed yn neuadd Ysgol y Bedol, Garnant. Fe gymerodd chwech ysgol gynradd yn yr ardal rhan yn y twrnamaint sef Ysgol Iau Rhydaman, Saron, Brynaman, Blaenau, Llandybie a Ysgol y Bedol. Enillwyr blwyddyn 3 a 4 oedd Ysgol Brynaman a enillwyr blwyddyn 5 a 6. Dyma luniau o'r timau buddugol:
Hoffem ddiolch i'r chwe ysgol a gymerodd rhan ac i Ysgol y Bedol am ei cydweithrediad hwylus ar y diwrnod.
Gwaith Ieuenctid
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llew Davies, Swyddog Ieuenctid Menter Bro Dinefwr, wedi bod yn gweithio gyda chanolfan Ieuenctid y `Streets' yn Rhydaman. Mae'r 'Streets' yn ganolbwynt i lawer o fandiau a cherddorion ifanc, ac mae Llew wedi bod yn ceisio annog rhain i ysgrifennu eu caneuon yn yr faith Gymraeg a cheisio dangos iddynt fod modd i'r faith Gymraeg fod yn help iddynt wrth drio cael cydnabyddiaeth am eu cerddoriaeth. Yn wir mae hyn wedi golygu fod y band BSS a'r cerddor Tom Hamer, y ddau yn deillio o ardal Rhydaman, yn perfformio tair c芒n Gymraeg yr un tra'n cystadlu ym Mrwydyr Y Bandiau ar Nos Fercher yr l9ed o Fawrth yng Nghlwb Nos Y Gwernllwyn.
Nofio
Bydd y Fenter yn cyd-weithio gyda TWF i drefnu sesiynau nofio i rieni a babanod yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman. Bydd y sesiwn cyntaf ar 27 Mawrth am 12, bydd y sesiwn cyntaf am ddim. Bydd cyfle i gymdeithasu dros goffi ar 么l y sesiwn. Am rhagor o fanylion cysylltwch 芒 Sarah Jones yn swyddfa'r Fenter ar 01269 596622.
|