Ffenestri tu mewn i ffenestri ydyn nhw a gwelir pedwar darn o lenyddiaeth arnyn nhw.
Daw un darn o Culhwch ac Olwen (Llyfr Gwyn Rhydderch, o lawysgrifau cynnar tua 1350)
1. Ymrodi y gerdet ohonaw ynteu, hyd at Mynyd Amanw, ac yna y llas banw o'e uoch et.
Dyma'r cyfeiriad cyntaf at ardal Dyffryn Aman mewn llenyddiaeth. Mae'n digwydd yn un o ddeuddeg chwedl Y Mabinogion, a gasglwyd yn ystod y 14eg ganrif.
Mae Culhwch ac Olwen yn un o'r chwedlau hynaf a mwyaf cyntefig yn y casgliad. Mae'n s么n am ymgais Culhwch i ennill llaw Olwen, merch y cawr Ysbaddaden Bencawr.
Gosododd y cawr nifer o dasgau i Culhwch eu cyflawni, ac un ohonyn nhw oedd sicrhau'r grib a'r gwellau a oedd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth er mwyn trin gwallt Ysbaddaden Bencawr ar gyfer neithior merch y cawr.
Helir y Twrch Trwyth ar draws De Cymru, ac fe gyfeirir yma at ladd un o berchyll y Twrch ar Fynydd Amanw.
2. Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pob cyfandir is y rhod
Yn eiddo Iesu Mawr.
A holl ynysoedd maith y m么r
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr I么r
Dros wyneb daear lawr.
Geiriau adnabyddus o emyn Watcyn Wyn, neu Watkin Hezeciah Williams (1844-1905) yn fardd, yn emynydd ac yn athro, a anwyd ym Mrynaman.
Dechreuodd weithio yn y lofa yn wyth mlwydd oed, cyn mynd i Goleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin er mwyn mynd yn weinidog gyda'r Annibynwyr.
Ni chymerodd ofal eglwys ond daeth yn enwog fel Prifathro Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman, athrofa i baratoi bechgyn ifanc ar gyfer y weinidogaeth.
Enillodd y Goron ym 1881 ar Gadair y 1885 yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
3. Os ydyw o dostur ei galon
Yn cofio aderyn y to,
Anghofiodd yn llwyr am dreialon
'Carcharor y glo'
Ganwyd awdur y trydydd darn sef Amanwy, David Rees Griffiths (1882-1953), yn Y Betws yn un o wyth o blant i'r gof lleol.
Cefnodd Amanwy ar yr ysgol pan oedd yn 12 oed ac aeth i weithio i Waith Ucha'r Betws.
Ar 么l dwy flynedd yn Sir Fynwy daeth yn 么l i weithio gyda'i frawd Gwilym. Llosgwyd y ddau mewn damwain ddifrifol yng nglofa Pantyffynnon ym 1907 a bu farw Gwilym.
Arbedwyd Amanwy a throdd ei olygon at lenyddiaeth o dan hyfforddiant Gwili ei athro yn Ysgol y Gwynfryn.
Bu'n ofalwr yn Ysgol Ramadeg newydd Rhydaman ym 1924. Bu'n aelod ffyddlon ac yn ddiacon yng nghapel Gellimanwydd. Roedd yn frawd i'r Aelod Seneddol Jim Griffiths.
Mae'r darn sydd yn y ffenest yn dod o bryddest a gyfansoddodd ar gyfer y radio ym 1953.
4. Y darn olaf a welir yw darn o Lygad Llwchwr
O geg y graig,
O enau'r garreg,
Daw'r llafar hwn.
Seiniau meddwl yn murmur
Ar dafod y dwr
Brawddegau, a'u cyflythreniad disglair.
Yn diferu'n gythryblus fyw.
Yn ddafnau m芒n
Yn niwl enfys
O lythrennau adnodau
Yn hen, hen ganiadau.
Darn o waith Einir Jones, bardd cyfoes o fri, a anwyd yn Nhraeth Coch, Ynys M么n, ond wedi bod yn byw yn Rhydaman ers 25 mlynedd.
Mae'n athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug ym 1991.
Cyhoeddodd bum cyfrol o farddoniaeth Pigo, Crachan, Gwellt Medi, Gweld y Garreg Ateb, Daeth Awst, Daeth Nos (1991) a Rhwng Dau, ar y cyd gydai thad (1998).