Swynwyd y dorf enfawr oedd yn bresennol yn y Capel y noson honno, nid yn unig gan burdeb y sain lleisiol a'r asio celfydd, ond hefyd gan newydd-deb y mynegiant wrth gyflwyno cadwyn o alawon Cymreig. Cyflwynwyd nifer o arias byd enwog yn feistrolgar yn yr ail hanner gan argyhoeddi pawb oedd yn bresennol eu bod yng nghwmni perfformwyr oedd yn parchu a charu cerddoriaeth. Ers y noson fythgofiadwy honno daeth llu o wahoddiadau i gymryd rhan mewn cyngherddau, nosweithiau llawen a cabaret ar draws Cymru a Lloegr, ac i ymddangos ar raglenni teledu. Mae'r 'Tri Tenor' yn hynod o ffodus bod ganddynt ddau gyfeilydd o fri y gallant ddibynnu ar eu gwasanaeth a'u cefnogaeth wrth ymarfer a pherfformio. Mae Eirwen Hughes o Benrhyncoch yn gyn - enillydd y Rhuban Glas ac yn gyfeilydd parod, nid yn unig i'r tri tenor ond i lu o gantorion ledled Cymru. Mae Gareth Wyn Thomas o Gapel Hendre hefyd yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd Eisteddfodol ac fel un o gyfeilyddion swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mawr yw dyled y 'Tri Tenor' i'r ddau gyfeilydd am eu cyfraniad gwerthfawr wrth baratoi'r gryno ddisg. Er mwyn cael llwyddiant rhaid wrth gefnogaeth, ac mae'r 'Tri Tenor' yn hynod ddyledus i'w teuluoedd a fu mor amyneddgar a chefnogol iddynt dros y pedair blynedd olaf. Maent hefyd yn gwerthfawrogi'r anogaeth a'r croeso a gawsant gan gynulleidfaoedd ymhob man. Yn olaf mawr yw eu diolch i bob un a gyfrannodd tuag at gynhyrchu'r gryno ddisg hon.
|