Mae'n rhestru "Dyddiadau Pwysig ym Myd Addysg a Lledaenu Democratiaeth" o 1898 i 1969, ac yn nodi'n gryno hanes deddfau Addysg 1870, 1889, 1902,1918 a 1944. Bu'n pysgota'n brysur yn Llyfrau Log yr ysgolion, a chododd st么r o fanylion diddorol, gan ddefnyddio ystadegau a lluniau pwrpasol am "Ddigwyddiadau arbennig" fel ailbriodas MadamAdelina Patti, dadorchuddio'r gofeb i Watcyn Wyn ar sgw芒r Cwmllynfell, a daeargryn' 1906. Saesneg oedd iaith swyddogol yr ysgolion ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif, ac fel hanesydd gwir o Gymro gwelodd Hywel Gwyn Evans gymaint o Frad a berthynai i Lyfrau Gleision 1847. "A seat of iniquity" oedd Cwmtwrch yn 么l Williams Morris, un o gomisiynwyr Arolwg y Llywodraeth! Pobl israddol hollol anwybodus oedd y Cwm lleol yng ngolwg perchenogion Seisnig Anglicanaidd y gweithfeydd haearn. Ni ofynnid am farn unrhyw weinidog ymneulltuol nac am farn unrhyw weithiwr cyffredin o Gymro. Roedd hi "Y Frwydr am Rehoboth" rhwng yr ysgolion Brytanaidd Anenwadol ac Ysgolion y Gymdeithas Anglicanaidd Genedlaethol. Mae'r penodau "Cwricwlwm a Sylwadau'r Arolygwr ar Safon yr Addysg a "Chyflwr ac Adnoddau'r Ysgolion" yn brawf o ymchwilio manwl a gwaith di-flino ar ran yr awdur. Mae'r rhestr "Clefydau heintus"- annwyd, brech yr ieir, bronceitis, clefyd coch, y crwp, y darfodedigaeth (neu'r diciau, dyclein, pla Gwyn, T.B.) difftheria a diffyg maeth y dwymyn doben, y frech goch, y frech wen, y ffliw, heintiau'r croen, y cwnsi a thonsileitis, y pas, ynddi'i hun yn creu darlun cymdeithasegol brawychus iawn. Y dyddiau hyn 芒 chynifer o'n hysgolion bach ni mewn perygl o gael eu difodi, ac yn wynebu datblygiadau ysgubol, dyma lyfr a fydd yn sicr o brofi'n ddiddorol. Os oes 'na hanesydd ifanc yn ardal Glo Man sy'n chwilio am destun ymchwil, yn sicr byddai "Pum Ysgol Ardal Dyffryn Aman" yn destun teilwng o astudiaeth. Gellwch brynu'r llyfr mewn Swyddfa Bost, Ysgol Gynradd, neu oddi wrth yr awdur am 拢10. Rhiannydd Morgan
|