成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Dafydd ap Emyr Taith ddyngarol i wlad Pwyl
Mehefin 2006
Mae Dafydd ap Emyr o'r Garnant sy' n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera wedi cael ei ddewis i fynd ar brosiect dyngarol yr Urdd "Dwylo Dros y Mor" i Wlad Pwyl yn ystod ei wyliau haf eleni.
Bydd yn ymweld 芒, ac aros mewn, dau gartref plant amddifad yn Legnica a Bystrzycy Gornej sy'n gartref i tua 80 o blant. Yn ystod yr ymweliad bydd yn rhoi cymorth i addurno'r adeiladau a gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol i adeiladu gwell dyfodol i'r plant. Roedd y llefydd yn brin i fynd ar y prosiect - dim ond lle i ddeg disgybl o ysgolion uwchradd Cymru - ac felly mae'n glod mawr i'r ardal fod gennym gynrychiolydd o'n plith.

Yn 么l Dafydd: "Ym mis Tachwedd y llynedd daeth cynrychiolydd o'r Urdd i Ysgol Ystalyfera i s么n am y prosiect dyngarol ym Mhwyl. Eglurodd fod profiadau yno yn y gorffennol wedi bod yn emosiynol iawn a hefyd yn addysgol ac yn agos i'r galon. Roedd cyfle i ddeg disgybl o bob ysgol uwchradd yng Nghymru i fynd ar y prosiect bythgofiadwy yma ac yn ffodus roeddwn i'n llwyddiannus yn fy nghais i fynd. Mae' n rhaid i mi, nawr, fynd ati i godi lleiafswm o 拢500 ar gyfer y daith fel fy mod yn gallu prynu offer, adnoddau ac anrhegion ar gyfer y plant Pwylaidd.

"Byddwn yn prynu popeth allan ym Mhwyl i roi hwb i'r economi lleol yno. Dim ond 拢10 y mis mae'r llywodraeth yn ei roi i ddilladu, bwydo ac addysgu pob plentyn. Felly mae'r arian a gesglir yma yn y gymuned yn holl bwysig iddynt. Nod arall y daith yw cael treulio amser gyda'r plant. Does gan y mwyafrif ohonynt ddim teulu a bach iawn o ymwelwyr sy'n mynd yno. Felly bydd ein hymweliad yn hynod o werthfawr iddynt.

"Byddwn yn cynnal Noson Gymreig yno hefyd a dysgu'r plant am Gymru a'i diwylliant. Mae'r Urdd yn gobeithio trefnu wythnos o wyliau i'r plant Pwylaidd yr haf nesaf, sef 2007, yn Llangrannog a Glan Llyn. Bydd yn gyfle i ni ail-gydio yn y cyfeillgarwch byddwn yn sicr o'i fagu yn ystod y daith eleni."

Ers wythnosau bellach mae Dafydd wedi bod wrthi'n codi arian ar gyfer yr achos. Mae wedi trefnu disgo, diwrnod gwisgo eich dillad eich hunan yn yr ysgol, pacio bagiau yn IKEA Caerdydd, ysgrifennu llythyron ap锚l i fusnesau, mudiadau a sefydliadau lleol ac mae taith gerdded noddedig i fyny'r Wyddfa ar y gweill yn ystod Mehefin. Dywedodd Dafydd: "Bydd cefnogaeth a chyfraniad o'r gymuned leol yma yn Nyffryn Aman yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau'r plant bach anghenus ym Mhwyl ac yn sicr o ddod 芒 gw锚n i'w hwynebau. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i ddarllenwyr Glo M芒n gefnogi fy ap锚l ariannol ar ran trueiniaid Pwyl. Gallwch gysylltu 芒 mi ar 01269 826564 neu ddanfon siec a'i gwneud yn daladwy i Dafydd ap Emyr (mae'r cyfeiriad yn y papur bro.)

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i'r sialens sydd o'm blaen ac rwy'n gwybod bydd y profiad yma'n mynd i fod yn un arbennig a bythgofiadwy."

Pob lwc i ti, Dafydd, gyda'r daith ddyngarol ym mis Awst.


Cyfrannwch

Llinos Rees a Nia Walters o Ysgol Gyfun Ystalyfera
Hello Dafydd, Pob lwc am y daith mawr, gobeithio byddi di'n dysgu llawer a mwynhau, oddi - wrth nia a llinos :)

Cerith, Rhydaman
Hey Dafydd!! Gobeithio ges t / nei d gael amser gwych yn Pwyl. Es i ar yr un daith n么l yn 2002, ti prob yn nabod fi! A ma rhaid i mi ddweud roedd y trip yn anhygoel! Gobeithio bo tn cael gymaint allan ohono fe a fi wedi, a dal i hyd at heddiw!

Rhodri Brace o Coelbren
Da iawn Daf!!! Pob lwc ar y daith! Rhods


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy