Ewch i ddarllen newyddion Menter Iaith Abertawe dros y mis diwethaf. Cafodd Siwan ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Bryn-y-m么r ac Ysgol Gyfun G诺yr cyn graddio yn y Gymraeg ac Almaeneg yn Abertawe. Cyn dechrau gweithio gyda'r Fenter yn Abertawe enillodd ddiploma mewn cyfieithu.
Mae gan Siwan wreiddiau diddorol. Mae Bryn Terfel yn gefnder iddi ar ochr John ei thad, ac mae ei mam, Ruth, yn hanu o'r Swistir. Mae Siwan yn bedair ieithog.
Cafodd Siwan ei phenodi dair blynedd yn 么l yn swyddog bro gyda'r Feneter, o dan Gynllun Amcan Un Ewrop, gyda gofal am wardiau llai breintiedig y ddinas. Yn y cyfnod hwnnw bu'n dra gweithgar yn cychwyn gwaith arloesol gyda phlant a phobi ifanc, a dysgwyr.
Mae Siwan eisoes wedi cychwyn ar ei gwaith newydd, gan gymryd lle Myfanwy Jones, a gafodd ei phenodi'n swyddog strategaeth ieuenctid Bwrdd yr iaith Gymraeg.
Mewn cyfweliad arbennig 芒 Wilia, meddai Siwan,"Rydw i ers Ionawr wedi cymryd drosodd gan Myfanwy Jones i fod yn Brif Swyddog ar y Fenter Iaith yn Abertawe. Dechreuodd Myfanwy tair blynedd yn 么l pan sefydlwyd y Fenter. Ers hynny, diolch i'w hymdrechion diflino hi a chefnogaeth barhaol pwyllgor T欧 Tawe, mae'r nifer o staff wedi cynyddu i 6 Swyddog llawn amser ac un swyddog rhan amser.
"Dymuna'r Fenter a Chymdeithas T欧 Tawe'r gorau iddi gyda'i swydd newydd fel Arweinydd Uned Ieuenctid Bwrdd yr laith.
"Roeddwn yn lwcus i ymuno 芒'r fenter yn gynnar iawn. Dechreuais trwy weithio yn y cynllun chwarae cyntaf a drefnwyd gan y Fenter n么l yn 2002, ac er roeddwn ond fod i weithio am 5 wythnos, symudais i weithio yn y swyddfa ac wedi gwrthod mynd ers hynny!
"Bydd nifer yn fy nabod fel Swydd og Bro'r Fenter, lle roeddwn yn gyfrifol am weithio yn ardaloedd difreintiedig Abertawe yn bennaf ond hefyd yn gwneud gwaith gyda dysgwyr a Meithrin.
"Rydw i'n edrych ymlaen at y cyfnod newydd hwn gyda'r Fenter a fydd yn si诺r o fod yn llawn profiadau newydd a chyffrous. Ac wrth gwrs rydw i'n hynod o hapus fod yn arwain t卯m mor frwdfrydig a chydwybodol sydd o hyd yn rhoi o'i gorau i'r gwaith."