Urdd Ofydd er Anrhydedd
Phyllis Bell, Felindre
Bu Ms Bell ar un amser yn gweithio yn y felin ddur a safai ar y llecyn sy'n safle i'r Eisteddfod eleni. Mae hi ynghlwm 芒'r ysgol leol ymhob math o ffyrdd o fod yn ofalydd i fod yn Llywodraethwr. Bu'n arwain Eisteddfod Gadeiriol Felindre er 1970, bu'n gofalu am Aelwyd yr Urdd.
Brenig Davies, Pontiets
Mae'n ddawnsiwr gwerin brwd, ac wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig 芒 Chymdeithaseg gwasanaethodd ym maes Iechyd Meddwl yn ne orllewin Cymru am flynyddoedd. Mae'n weinidog lleyg ar eglwysi yn y cylch.
Eifion Davies, Pontarddulais
Arlunydd dawnus a thu hwnt i'w waith fel athro celf bu'n gefn i lu o weithgareddau cymdeithasol ei ardal gan gynnwys gwaith gyda'r ieuenctid.
Sally Evans, Pontarddulais
Bu Ms Evans yn deyrngar i fyd yr eisteddfod, yn lleol a chenedlaethol. Ers dros hanner canrif bu'n mynychu'r brifwyl, gan wasanaethu fel stiward yn ystod yr 28 blynedd diwethaf.
Brian Humphreys, Brynaman
Un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg L么n-las. Mae ei wasanaeth fel cynghorydd, ei gyfraniad i'w eglwys ym Mrynaman, ei ymroddiad i'r henoed a'r aelwyd ym Mrynaman, yn ogystal ag i'r papur bro, Y Llais, yn amhrisiadwy.
Beti Wyn James, Caerfyrddin
Yn hanu o Glydach. Ymgymerodd 芒 gweinidogaethu yn y Barri lle bu'n helaeth iawn ei chyfraniad i fywyd Cymraeg y dre honno, ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a'r Ysgolion Cymraeg. Gwasanaethodd ar fyrddau Llywodraethol yr Ysgolion, a bu'n Llywydd y Cymrodorion.
Helen Jones, Felindre
Hi yw ysgrifennydd ac asgwrn cefn Eisteddfod Felindre. Mae hi'n ddiacones weithgar yn ei heglwys tra bu'n athrawes mewn gwahanol ysgolion yn y cyffiniau.
T. Graham Williams, Rhiwfawr, Cwmtawe
Bu'n l枚wr ond fe aeth ymlaen 芒'i addysg gan raddio yn y Brifysgol Agored. Y mae ganddo ddawn arbennig i ddehongli a chyflwyno gwaith Dylan Thomas, a gelwir arno yn aml i berfformio'i waith. Mae'n awdur ac eisteddfodwr diwyd.
Urdd Derwydd er Anrhydedd
Eric Davies, Gwaun-cae-Gurwen
Bu'n drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth mae'n llefarydd cyson ar ran C.B.I. Cymru. Bu'n gefnogol i fudiadau Cymraeg gan gynnwys Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin.
Alwyn Humphreys, Caerdydd
Cafodd ei fagu ym Modffordd yn Ynys M么n. Cyfansoddodd a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer llu o gorau, a bu'n arwain C么r Orffiws Treforys drwy gyfnod arbennig o lwyddiannus am chwarter canrif. Yn ystod bron yr un cyfnod bu'n cyflwyno'r rhaglenni llwyfan y Genedlaethol a'r Urdd.
David Gwyn John, Treforys
Dechreuodd weithio fel athro ail-iaith mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe. Bu'n brifathro Ysgol Gymraeg L么n-las, ac yn arwain Aelwyd yr Urdd Treforys, ac yn gefnogwr brwd i'r Urdd ac eisteddfodau.
Prys Morgan, Abertawe
Yn llenor, yn hanesydd a darlledwr, gwasanaethodd Mr Morgan fel golygydd amryw o gyfnodolion a chyfrolau ysgolheigaidd, yn aelod a chadeirydd cyrff cenedlaethol fel pwyllgor llenyddol Cyngor y Celfyddydau a Phwyllgor Adeiladau Cymru. Eleni fe'i hurddwyd yn Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Er 2002 y mae'n Athro Emeritws Prifysgol Cymru.
Urdd Llenor (Gwisg Las)
Craig Howard - Tregof, Abertawe
Rachel Anwen Jones - Gelli Fedw
Daniel Rhys Tiplady - Llangyfelach
Nesta Mair Tiplady - Llangyfelach
Urdd Cerddor (Gwisg Las)
Nia Sian Davies - Pontlliw
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Richard Allen, Casllwchwr - Enillydd y Rhuban Glas Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2003