Daeth taw yn Abertawe
Ar dridiau'n hirdroedio tafarne!
Ond nid tafarn mo lleoliad noson fawr Tyrfe Tawe eleni. Nid lleoliad mynd allan yng nghanol y ddinas mo hwn, ond un o ganolfannau diwylliannol Abertawe. Os nad oeddech chi yno, ddowch chi fyth i ben 芒 dyfalu am beth ydw i'n s么n. Oblegid Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y Marina oedd cyrchfan ffans a selogion y s卯n roc Gymraeg ar gyfer uchafbwynt penwythnos o hwyl a sbri.
Mae'r Tyrfe wedi datblygu'n aruthrol ers y noson feddwol honno yng nghanol y ddinas pan benderfynwyd mynd ati i drefnu penwythnos o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg yma yn Abertawe. Roedd elfennau eleni a greodd 诺yl i guro pob g诺yl arall.
Cychwynnodd y cyfan nos Fercher diwethaf yn Nh欧 Tawe gyda noson Pictiwrs yn y Pyb dan arweiniad y ffilm-byff Gary Slaymaker. Dangoswyd amrywiaeth o ffilmiau a'u cyflwyno gyda'r hiwmor arferol. Dyma noson o ffilmiau byrion, popcorn a chwmni da. Un o'm hoff ffilmiau oedd hwnnw am fachgen o Tseina sydd yn penderfynu teithio i'r Iwerddon i ddysgu'r Wyddeleg. Cysyniad hollol ddiddorol. Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r fath ddod i'r Tyrfe, ond gobeithio nad hwn fydd yr olaf chwaith.
O ganol y ddinas i'r Marina ar gyfer noson werin ar nos Iau yng Ngwesty'r Queen's. Dyma gyfle i bobl leol y dafarn fwynhau noson o'r hen ffefrynnau yn eu patsiyn eu hunain. Doedd y dafarn ddim yn orlawn fel y llynedd ond roedd digon o dorf ac awyrgylch i allu joio ma's draw gydag un neu ddau gerddor o'r ardal hon a thu hwnt, gan gynnwys yr amryddawn Dan Morris o 'Gwerinos' gynt a Marc Weinzweig. Roedd cymysgedd o bobl yno ar y noson, gan gynnwys Cymry Cymraeg, y di-Gymraeg, hen, ifanc, cerddorol, anwybodus - y cyfan yn uno mewn noson o fwynhad pur.
Elfen newydd i'r Tyrfe eleni oedd cynnal dwy gig ar yr un noson mewn dau leoliad gwahanol. Cynhaliwyd gig arbennig i bobl dan ddeunaw a'r llall ar gyfer pobl ychydig yn h欧n. Croesawyd band ifanc o'r ardal, 'Yr Angen' [yn y llun], sydd yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun G诺yr, a reolir gan athro yn Adran Gemeg yr ysgol, Dr. John Thomas. Perfformiodd y band hwn yn Nh欧 Tawe gyda brwdfrydedd, egni a llawer iawn o hwyl. Mae'n debyg y byddan nhw'n perfformio'n aml yn gigs 'Gwener y Grolsch' dros y misoedd sydd i ddod. Maen nhw'n enw ar gyfer y dyfodol yn sicr. Yn rhannu'r llwyfan oedd Andrew Rhys Lewis, y canwr lleol o Ystalyfera, sydd wedi perfformio sawl gwaith yn y ganolfan o'r blaen. Fe'i gwelwyd ar y llwyfan acwstig ar nos Sadwrn hefyd.
Dafliad carreg o'r fan honno, roedd yr elfen h欧n yn hel atgofion am y dyddiau a fu yng nghwmni nifer o enwau o'r gorffennol. Noson 'retro' gafwyd yn yr Adam & Eve gyda bandiau o'r 70au a'r 80au. Roedd hi'n brofiad da cael eu clywed yn fyw am y tro cyntaf, gan nad ydw i'n eu cofio nhw pan sefydlwyd y bandiau hyn yn wreiddiol. Agorwyd y noson gan 'Merched Becca' a garlamodd trwy eu set o glasuron, gan gynnwys 'Ynysoedd M么n', un o'r caneuon a berfformiwyd ganddynt yn eu gig gyntaf ryw ugain mlynedd yn 么l. Dyna i chi gwenerlais sydd gan y gantores! 'Crys' oedd nesaf ar y llwyfan gyda'u roc trydanol a'r traciau'n amrywio o 'Pendoncwyr' i 'Dyma'r Band Cymraeg'. Dyma set egn茂ol llawn roc a r么l. Fe daniwyd y dorf ganddyn nhw! Yn arwain y noson hon o ansawdd uchel oedd y dyn lleol ei hun, Neil Rosser. Roedd e'n barod i blesio gyda'i arlwy o ganeuon am y ddinas a'r cyffiniau, a nifer o ganeuon bl诺s. Mae hi bob amser yn bleser cael ei glywed yma yn y ddinas a doedd eleni ddim yn eithriad.
Cyn i ni sylweddoli, fe ddaeth noson olaf yr 诺yl, a draw 芒 ni i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y Marina. Lle digon rhyfedd i gynnal gig ar yr olwg gyntaf, ond roedd hi'n amlwg yn weddol fuan yn y noson y byddai'n lleoliad poblogaidd. Teimlwyd bod Tyrfe Tawe wedi aeddfedu wrth ddod 芒'r noson i'r fath le, ac mae'n bosib ei bod hi wedi dod o hyd i'w chynefin yma yn y ddinas. Rhannwyd y bandiau i ddau lwyfan, gyda'r dorf yn gorfod symud rhwng y neuadd a'r caffi. Roedd amrywiaeth o bobl yn y dorf, o fyfyrwyr Caerdydd ac Abertawe i bobl broffesiynol y ddinas. Fe gafwyd gwledd o gerddoriaeth ar eu cyfer, gyda sbectrwm cyfan o roc, pop, gwerin, hip-hop a chanu gwlad hyd yn oed! Roedd y lein-yp yn cynnwys Y Rei, Merched Mecca, Cowbois Rhos Botwnnog, Frizbee a Sibrydion, a Fflur Dafydd, Huw Dylan, Gareth Phillips ac Andrew Rhys Lewis.
Rwy'n sicr fod gan bawb eu ffefrynnau, ond i fi, ar y llwyfan acwstig, Fflur Dafydd oedd y gorau o bell ffordd gyda pherfformiad hyderus, aeddfed a chwbl syfrdanol. Ond fe wnes i fwynhau Huw Dylan yn fawr hefyd, yn enwedig 'Nos Fawrth yn Abertawe', c芒n wreiddiol a ysgrifennwyd ar gyfer Tyrfe Tawe ryw ddwy flynedd yn 么l. Uchafbwyntiau'r prif lwyfan i fi oedd Frizbee a Sibrydion. Roedd eu fersiynau unigryw o 'Heyla' a 'Madame Guillotine' fel ei gilydd yn fodd o fywioc谩u'r amgueddfa gyfan.
Ar y cyfan, bu Tyrfe Tawe 2006 yn llwyddiant ysgubol. Mae un peth yn sicr. Mae'r Tyrfe'n cynyddu, ac mae 2007 yn addo mwy a mwy o gyffro ledled y 'second siti'. Tyrfe-tastig!
Ewch i www.tyrfe-tawe.com am ragor o fanylion a lluniau'r 诺yl eleni ac am wybodaeth am Tyrfe Tawe 2007.
Gan Alun Rhys Chivers
Gwefan Abertawe