Cafodd 88% o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bryn Tawe 5 o
raddau A-C yn yr arholiadau TGAU eleni.
Am yr ail dro'n flynyddol, canlyniadau'r ysgol oedd y gorau yn y sir. Ond eleni mae'r ysgol wedi mynd un cam ymhellach, ac yn 么l pob tebyg wedi cael canlyniadau gorau Cymru.
Cyfartaledd Cymru eleni yw 65%, ac roedd Bryn Tawe ond
y dim i daro 90%.
Meddai David Williams, pennaeth yr ysgol, "Rhaid cofio bod llawer o'n plant yn dod o gefndir nodweddiadol o'r ardal, o'r Cl芒s
a Llansamlet. Mae'n rhyfeddol eu bod wedi gwneud cystal, ac
yn well na disgyblion o gefndiroedd l lawer mwy breintiedig."
Tynnodd Mr Williams sylw at un disgybl a ddaeth i'r ysgol gydag
anghenion arbennig, a'r disgybl yn cael 7 pwnc TGAU A-C.
GWYDDONIAETH
Y pwnc mwyaf llwyddiannus oedd Gwyddoniaeth. Meddai Mr
Williams, "Mae'n arwyddocaol mai Gwyddoniaeth oedd y pwnc
mwyaf llwyddiannus, er bod pynciau eraill wrth gwrs wedi
gwneud yn wych iawn. Mae pob disgybl yn dysgu Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg, ac mae hyn yn sicr yn rhoi'r farwol i bob
dadl am anhawster gwneud y gwyddorau trwy'r Gymraeg. Byddai'n werth i ysgolion gorllewin Cymru weld beth sy'n disgwydd
mewn ardal fel Abertawe."
CYMRAEG A SAESNEG
Cafodd yr ysgol ganlyniadau arbennig eto yn y Gymraeg a'r
Saesneg. Ychwanegodd Mr Williams, "Mae'n wych gweld llwyddiant y
disgyblion yn y Gymraeg. Yr hyn sy'n arbennig yw bod disgyblion o gartrefi Saesneg wedi gwneud cystal ac yn well na disgyblion o gartrefi Cymraeg. Mae'r rhieni wedi dangos ffydd yn yr ysgol, ac
rydyn ni'n falch ein bod wedi llwyddo i gyfiawnhau'r ffydd mewn addysg Gymraeg."
|