Cyflwynwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 i Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Heini Gruffudd, gan gynrychiolwyr o Eglwys Bethel, Sgeti, (rhoddwyr y Gadair) mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ar 23 Mai.
Dyluniwyd y Gadair gan Elonwy (Lon) Riley o Lansawel ger Llandeilo (ar y chwith i'r gadair yn y llun), dylunydd gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y maes. Mae ar hyn o bryd yn darlithio ar ddylunio mewn colegau yn ne a gorllewin Cymru. Nodweddion daearyddol unigryw Abertawe a'r Cylch a ddylanwadodd ar gynllun Lon ar gyfer y Gadair:
"Roeddwn am ddal yr agweddau gweledol hyn yn fy nghynllun a thrwy ddefnyddio deunyddiau sydd 芒 chysylltiadau diwydiannol a diwylliannol gydag Abertawe a'r Cylch, dwi wedi llwyddo i ail-greu'r tirwedd dramatig yma. Mae copr yn cynrychioli'r cysylltiad hanesyddol, tra bod gan y gwydr ddolen fwy diweddar gan fod canolfan Genedlaethol Gwydr Lliw Pensaern茂ol wedi'i lleoli yn Athrofa Abertawe."
Wedi ymchwilio a braslunio diddiwedd, daeth Lon o hyd i sail berffaith i'w chynllun, gan ychwanegu'r syniad fod y paneli derw a ffurfia gefn y gadair yn efelychu llyfr agored, gan gyfeirio at lenyddiaeth a Dylan Thomas yn arbennig. Gwyddai bod yn rhaid i'r Gadair fod yn gain, yn seremon茂ol ac yn fawreddog, yn ogystal 芒 chydweddu 芒 thu fewn i gartref y bardd llwyddiannus. Daeth ffurf y Gadair o ddylanwad George Heppelwhite, gwneuthurwr cadeiriau o'r 18fed ganrif.
Dwylo dawnus Tony Graham a Paul Norrington bu'n gyfrifol am grefftio'r Gadair, ac fe'i gwnaethpwyd yn safle Rhydaman, Coleg Sir G芒r. Dewiswyd y pren gyda gofal mawr ar gyfer pob rhan o'r Gadair, er mwyn amlygu'r graen ar ei orau. Gwnaethpwyd y panel gwydr gan Rodney Bender a Lon ei hun a fu'n gyfrifol am y gwaith cerfio.
Yn 么l Lon:
" Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint cael cynllunio'r Gadair Farddol".
Cyflwyno'r Goron
|