Cafodd Charlotte Thomas
ac Owen John, y cyfle i fynd i wersyll Auschwitz fel rhan o'r
cynllun Lessons from Auschwitz.
Aethant gyda Mrs Bethan
James, pennaeth yr adran
hanes, i weld gwersyll enwocaf y Natsiaid.
Cyn cyrraedd y gwersyll ei hun,
aeth y myfyrwyr i ymweld 芒
mynwent Iddewig O艣wi臋cim, y
pentref Pwylaidd y rhoddwyd yr
enw Auschwitz iddo gan y Natsiaid.
Yno roedd cyfle i ddysgu
am y gymuned Iddewig a fodolai
yng Ngwlad Pwyl cyn yr Holocost.
Er mai Iddewon oedd
58% o drigolion O艣wi臋cim yn
1939, erbyn heddiw does dim
un Iddew yn byw yno ac erys y
fynwent ei hun ar glo oherwydd
iddi ddioddef sawl ymosodiad
gwrth-Semitaidd yn ystod y
blynyddoedd diwethaf.
Hwyrach yn y dydd daeth yr
amser i gerdded trwy g芒t enwog
Auschwitz 1, dan y geiriau
adnabyddus Arbeit Macht Frei.
O dan arweiniad tywyswraig yr
amgueddfa, aeth y disgyblion
ymlaen i weld ystafelloedd arteithio'r
Natsiaid ac i sefyll
mewn un o'r siamberi nwy, yn
ogystal 芒 gweld cartref rheolwr Auschwitz, Rudolph
Hoss.
Profwyd elfen fwy personol
wrth ymweld 芒 rhai o arddangosfeydd
y gwersyll, fu'n cynnwys
casgliadau o sbectolau, esgidiau a
gwallt y dioddefwyr.
Yn Birkenau, gwelwyd ehangder y
cynllyn difodi, wrth i'r disgyblion
wel y tyrrau gwylio, y barracks ac
adfeilion y siamberi a'r ffwrnesi a
ddinistrwyd gan y Natsiaid wrth
iddynt ffoi i'r gorllewin ar ddiwedd
y rhyfel.
Efallai'r profiad fwyaf
trawiadol oedd gweld barracks y
plant, adeilad bach a thywyll, lle y
cadwyd cannoedd o blant Pwylaidd
fu'n byw ar wahan i'w rhieni.
Roedd dau lun lliw ar wal y barracks
yn cynnig un golwg o fywyd
y tu hwnt i ffiniau'r gwersyll a'r
plentyndod coll y breuddwydiai'r
plant amdano.
Bydd S4C yn
darlledu rhaglen arbennig yn olrhain
hanes y daith ar Hacio,
S4C Digidol, 12 Mehefin.
|