Ym mis Ionawr, penderfynodd criw o ffrindiau y dylid trefnu g诺yl yn Abertawe er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn y ddinas. Ffurfiwyd pwyllgor, sydd yn cwrdd yn wythnosol ers hynny, a dechreuodd y gwaith trefnu o ddifrif. Dewiswyd yr enw 'Tyrfe Tawe' i'r 诺yl, oherwydd gobeithir y bydd 'tyrfe' o bobl yn dod i fwynhau'r gerddoriaeth fydd yn siglo'r ddinas ar Hydref 15-16. Nid yw'r bandiau wedi eu cadarnhau eto, ond mae nifer o artistiaid enwocaf y s卯n, megis Meic Stevens a Kentucky AFC wedi dangos brwdfrydedd mawr - mae'n argoeli i fod yn benwythnos bythgofiadwy! o'r dechrau, cytunwyd y dylai tocynnau Tyrfe Tawe fod am ddim, er mwyn denu cymaint o bobl 芒 phosib i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Oherwydd hynny, rhaid codi cryn dipyn o arian er mwyn talu'r costau. Felly, yn ogystal 芒 lansio Tyrfe Tawe yn swyddogol, roedd cyngerdd a gynhaliwyd yn Nhŷ^ Tawe nos Sul Mai 30 yn gyfle i godi arian at y fenter. Daeth rhai o berfformwyr mwyaf blaenllaw yr ardal i ddangos eu cefnogaeth - Neil Rosser, Geraint Griffiths a Huw Chiswell - ac roedd y pwyllgor yn hynod ddiolchgar iddynt am berfformio'n ddi-d芒l. Gwerthwyd pob tocyn, ac roedd crysau T Tyrfe Tawe yn mynd fel slecs. Rhoddodd sawl aelod o'r gynulleidfa gyfraniadau hael yn y fwced hefyd - diolch o galon i chi. Dechreuodd y noson gyda chroeso Catrin Rowlands, cadeirydd pwyllgor yr 诺yl, a darllenwyd englynion Huw Dylan Owen am Tyrfe Tawe. Yna, daeth Neil Rosser, y bachgen o Dreforys i'r llwyfan. Cafwyd perfformiad hwyliog iawn ganddo - daeth ei hiwmor miniog a gw锚n i wynebau pawb. Nesaf, roedd Geraint Griffiths. Roedd ei ganeuon yntau'n fwy difrifol, ond cafodd ymateb gwych a braf oedd clywed hen ffefrynnau fel 'Cowbois Crymych' am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Wedi hynny, daeth uchafbwynt y noson i lawer - Huw Chiswell, neu 'Chiz'.Roedd hyn yn gyfle i rai - a'r merched yn arbennig - i ail-fyw eu hieuenctid ff么l pan oeddChiz yn seren ac yn eilun. Ond profodd Chiz nad yw amser wedi effeithio ar ei lais na'iddawn, gyda pherfformiad teimladwy a phwerus. Erbyn y diwedd, roedd y gynulleidfa'n cydganu 'Y Cwm' a'i 'hits' eraill, gan foddi ei gyfeiliant medrus ar y piano. Daeth y noson i ben ar uchafbwynt, a phawb yn amharod i droi tuag adref. Sylwais fod dagrau yn llygaid ambell un. Bu Noson lansio Tyrfe Tawe yn gyfle i gamu n么l i'r wythdegau, ond roedd hefyd yn gyfle i edrych r dyfodol. Mae bywyd Cymraeg Abertawe'n dihuno, a phobl ifanc yr ardal yn awchu am gyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithir y bydd Tyrfe Tawe'n arwain at fwrlwm o ddigwyddiadau eraill yn y ddinas.
|