Mae'n byw yn Llandeilo gyda'i deulu, ei wraig Jane a'u dwy ferch, Siwan, sydd ym mlwyddyn 10, yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, a Lluan, sy'n astudio ieithoedd yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen. Graddiodd Mr Williams 芒 B.Add. yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, ac yna enillodd radd M.Add. ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Yn ddiweddarach fe gafodd radd M.A. Prifysgol Cymru. Ysgolion Ers cychwyn ei yrfa bu'n gweithio mewn wyth o ysgolion, gan gynnwys Ysgol yr Olchfa, Abertawe, rhwng 1976 ac 1986. Cafodd gyfnodau wedyn yn Uwch Athro yn Ysgol Gyfun y Cymer, Rhondda, ac yn Uwch Athro a Phennaeth y Chweched yn Ysgol Gyfun Llanhari, o 1995 i 1999. Yn ystod ei amser hamdden prin, mae David Williams yn Faer Cyngor Tref Llandeilo Fawr, ac yn aelod o g么r Bois y Castell. Bu hefyd yn sefydlydd Gwyl Llandeilo Fawr, ac mae'n aelod o bwyllgor trefnu'r Wyl. Mae e hefyd yn bregethwr cynorthwyol. Edrych ymlaen at ddatblygiad ysgol newydd Mae'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae rhan flaenllaw yn nechreuad a datblygiad yr ysgol newydd. "Mae'n gyfle cyffrous i sefydlu ysgol a fydd yn darparu'r addysg orau posibl i blant Abertawe a'r cylch, beth bynnag fydd eu cryfderau a'u hanghenion," meddai Mr Williams.Mi fydd yn ymweld ag ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal yn y dyfodol agos. Gwella'r Adeiladau Mae'r Sir wedi cychwyn ar y gwaith o adnewyddu safle'r ysgol newydd. Mae angen ailwifro'r adeilad a rhoi system wresogi newydd yn y lle cyntaf. Mae cynlluniau wedi eu tynnu i adnewyddu'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf i gyd, mewn pryd ar gyfer yr agoriad ym mis Medi 2003. Mi fydd y pennaeth a'r corff llywodraethu'n ymgynghori'n fanwl 芒'r Sir ar y gwaith yma. Erbyn iddi agor bydd gan yr ysgol gyfleusterau newydd sbon ar gyfer yr holl gwricwlwm, gan gynnwys labordai, gwaith TG, drama, cerddoriaeth, gwyddor cartref, celf, a gweithdai.
|