Trefnodd Rhag a Menter Iaith Abertawe ddiwrnod o ymweliadau I grwp addysgol o Estonia ddechrau Tachwedd. Roedd swyddogion addysg ac athrawon a rhieni o Estonia am weld sut mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu yng Nghymru.
Cawson nhw groeso yn Ysgol Gymraeg Llwynderw yn y bore ac yn Ysgol Gymraeg Bryn Tawe yn y prynhawn. Dysgon nhw am ddulliau dysgu ac am y modd y caiff addysg Gymraeg ei threfnu.
Ers ennill annibyniaeth ryw ugain mlynedd yn 么l, mae 80% o ysgolion Estonia'n dysgu trwy gyfrwng yr Estoneg, ac mae Prifysgol Estonia'n dysgu drwy'r Estoneg.
Byddai'n dda i swyddogion addysg Cymru fynd i Estonia i weld sut mae gwlad fach yn gallu trefnu addysg yn ei hiaith ei hun.
|