Mae Cyngor Abertawe'n rhagweld y bydd angen mwy na 500 o lefydd ychwanegol mewn ysgolion Cymraeg yn y dyfodol agos. Mae'r twf dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod yn gyson, ac yn uwch na'r hyn a ragwelwyd gan y Sir.
Mae'r twf wedi ei atal yn unig gan y diffyg lle mewn ysgolion. Er bod y Sir yn rhagweld twf, nid oes cynlluniau boddhaol am ehangu yn y dyfodol.
Mae s么n am ychwanegu at y lle ym Mryn Iago, Pontybrenin, Tirdeunaw, Lon-Las a Llwynderw, a fydd gyda'i gilydd yn rhoi 408 yn ychwanegol o lefydd.
Ond nid oes unrhyw gynllun ar gyfer agor ysgolion Cymraeg mewn mannau lle mae eu hangen. Mae Rhag wedi bod yn pwyso am gael ysgol Gymraeg ychwanegol yn Nhreforys, ond mae'r Sir yn s么n am gynyddu maint Ysgol Lon-Las i 600 o ddisgyblion. Mae hyn ymhell y tu hwnt i faint delfrydol ysgolion cynradd. Yr angen yn Abertawe yw gweld ysgolion Cymraeg newydd yn cael eu sefydlu i wasanaethu gwahanol ardaloedd.
Mae arolwg sy'n cael ei gynnal gan y Sir i fesur y galw am addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn dangos y byddai 38% o ddisgyblion y ddinas am gael lle mewn ysgolion Cymraeg. Y canran ar hyn o bryd yw tua 10%.
|