Wrth gyhoeddi enw Meirion Prys Jones, dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i benodi Meirion fel Prif Weithredwr i'r Bwrdd. Bu ei gyfraniad fel Prif Swyddog Addysg, Arweinydd y T卯m Cynllunio Ieithyddol ac, yn fwyaf diweddar, fel Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd yn sylweddol, ac edrychwn ymlaen fel Bwrdd at gydweithio 芒 Meirion yn rhinwedd ei swydd newydd."
Dywedodd Meirion Prys Jones:"Rwy'n edrych ymlaen at yr her o arwain Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Bwrdd - ac i'r iaith ei hun. Roedd canlyniadau'r cyfrifiad diweddar yn galonogol ac mae gan y Cynulliad dargedau uchelgeisiol yn ei gynllun strategol ar gyflwr yr iaith Gymraeg, Iaith Pawb. Y dasg nawr yw cynyddu'r nifer o bobl o bob oed sy'n siarad Cymraeg. Mae'n rhaid i ni hefyd roi llawer mwy o gyfle i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd - gwaith a hamdden.
"Fel un fu'n gweithio ym maes addysg am flynyddoedd, credaf bod addysg yn gorfod bod yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Bwrdd dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn ein galluogi i gynyddu'r nifer sydd nid yn unig yn medru'r Gymraeg ond yn dewis ei siarad hi. Mae addysgu rhieni yn hollbwysig hefyd.
"Mae prosiect TWF yn allweddol yn hyn o beth, gan fod yn rhaid i ni annog rhieni i drosglwyddo'r iaith i'w plant. Yn ogystal, rwy'n gredwr cryf mewn prosiectau sy'n dod 芒 chymunedau lleol at ei gilydd, ac mae'r rhwydwaith o fentrau iaith ar hyd a lled Cymru yn enghraifft arbennig o'r iaith ar waith ar lawr gwlad.
Bydd Meirion Prys Jones yn dilyn John Walter Jones fel Prif Weithredwr, ac meddai Rhodri Williams:
"Bu John Walter Jones yn Brif Weithredwr y Bwrdd ers y cychwyn cyntaf, a rhoddodd arweiniad cadarn i'r staff a'r aelodau. Bu cyfraniad John i'r Bwrdd a'r iaith yn gyffredinol yn aruthrol, ac rwy'n hyderus y bydd Meirion yn olynydd teilwng, ac yn adeiladu ar y seiliau sydd eisoes yn eu lle.
"Mae Meirion eisoes yn uchel ei barch ymysg staff ac aelodau'r Bwrdd, a gwn ein bod i gyd yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y Gymraeg. Mae hwn yn gyfnod pwysig, cyfnod pan fydd y Bwrdd yn gallu cynyddu ei waith dros yr iaith yn sylweddol, gan agor swyddfeydd mewn rhannau eraill o Gymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru."
Ymunodd Meirion Prys Jones 芒 staff Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1994 fel Prif Swyddog Addysg. Fe'i penodwyd yn arweinydd T卯m Cynllunio Ieithyddol yn 2001 a bu'n gyfrifol am sefydlu sawl prosiect arloesol o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.
Cyn ymuno 芒'r Bwrdd, bu'n bennaeth adran Gymraeg yn Ysgol Castell Alun, Yr Hob ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, cyn symud i fod yn Ymgynghorydd y Gymraeg yn Adran Addysg Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg. Bu hefyd yn Arolygydd Ysgolion.
Yn enedigol o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr, treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Llangadog yn Nyffryn Tywi cyn symud i Wrecsam. Mae'n briod a chanddo ddwy ferch yn eu harddegau, ac mae'n byw bellach yng Nghaerfyrddin.
Bydd Mr Prys Jones yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2004.