Gaiman
Rwy' n byw yn Gaiman, sydd ryw ddeng milltir o ddinas Trelew. Tref yw Gaiman, ond mae'n debycach i bentref mewn gwirionedd. Mae pawb yn adnabod ei gilydd a'r gymdeithas Gymraeg yn glos iawn, a ches groeso arbennig o gynnes gan bawb. Er bod llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn Nhrelew, mae'n haws eu canfod nhw yma, ac o fy ffermydd cyfagos clywch fwy o Gymraeg eto.Tai Cerrig
Mae Gaiman yn denu llawer o dwristiaid gan ei bod yn dref bert iawn, a gwedd Gymreig ar yr hen dai bach cerrig. Bydd twristiaid yn aml yn tynnu lluniau o fy nhy, a Choleg Camwy sydd y drws nesaf iddo.
Te Cymreig
Atynfa arall Gaiman yw'r tai te Cymreig dirifedi. Maen nhw'n ei alw'n de Cymreig, ond dw i ddim yn credu y cewch chi gystal gwledd yng Nghymru! Am bris isel (i ni'r Cymry o leiaf) cewch lwyth o fara cartref, menyn a dewis helaeth o jam, galwyni o de, caws a theisennau o bob math! Teisen arbennig y Wladfa yw'r deisen ddu, sy'n debyg i fara brith.
Mae sawl teisen hefyd yn cynnwys dulce de leche, sef jam llaeth. Mae'n stwff gludiog melys iawn - mae gan yr Archentwyr ddant melysach na'r Cymry dw i'n credu.
Mae fy mywyd i yma yn brysur iawn. Rwy'n dysgu dosbarthiadau Cymraeg yn Gaiman ac ym mhentref Dolafon, sydd ryw ddeuddeg milltir i ffwrdd. Mae nifer o'r dosbarthiadau'n dechrau'n hwyr yn y nos, gan fod pobl yma yn gweithio oriau hir, yn enwedig ers trafferthion economaidd y wlad. Ond erbyn hyn, rwyf wedi ymgynefino 芒'r gwaith ac yn ei fwynhau yn fawr. Mae dysgu dosbarthiadau'r dechreuwyr yn gallu bod yn anodd ar brydiau gan nad wyf eto'n siarad Sbaeneg yn rhugl, ond mae'r dysgwyr yn frwd iawn a phobl o bob oed a chefndir yn awyddus i ddysgu'r iaith. Mae sawl un o gefndir hollol Sbaenaidd wedi ymddiddori yn yr iaith ar 么l canu yng Ngh么r y Gaiman - cerddoriaeth, heb os, yw un o'r rhesymau dros barhad y Gymraeg yma.
Bywyd gwyllt
Ar brydiau, rwy'n anghofio fy mod yn ne America ac yn bell iawn o nghartref gan fod Gaiman yn lle mor gynnes a Chymreig. Ond gwahanol iawn yw'r tirwedd a'r bywyd gwyllt yma i Gymru, a byddaf yn aml yn syllu'n syfrdan drwy ffenest y bws wrth deithio n么l o Ddolafon.
Mae lliwiau'r awyr ddi-gwmwl yn fendigedig wrth i'r haul fachlud, a'r caeau mawr gwastad oddi tani yn troi'n binc. Echddoe, cefais wefr wrth weld estrys yn rhedeg wrth ochr y bws! Ond i'r teithwyr eraill, roedd yn ddigwyddiad digon di-nod. Er bod y bobl yma o dras Gymreig yn edrych fel Cymry ac yn ymddwyn fel Cymry, mae pawb yma yn llawer mwy hamddenol a dibryder. Rwyf wedi dysgu erbyn hyn nad yw'r amser ar y cloc yn bwysig.
Ar fy niwrnod cyntaf o ddysgu yn Nolafon, es ar fws y ffermydd yn hytrach na bws y briffordd. Roedd y gyrrwr yn mynd yn hamddenol braf, gan aros i sgwrsio gyda hwn a hon. Ro'n i hanner awr yn hwyr yn cyrraedd, ond doedd dim ots gan neb. Y nos Wener ganlynol, trefnais i gwrdd a phobl yn hwyr' yn y Dafarn Las, sydd ar hen fy stryd. Meddyliais fod 1.30 y bore yn ddigon hwyr, ond chyrhaeddodd neb heblaw rhyw lanciau pymtheg oed tan ddau! Rwy'n deall nawr mai'r amser cwl' i gyrraedd yw tua 2.30am, pan fydd pobl Abertawe'n ymlwybro adref gyda'u kebabs!
Dosbarthiadau
Rwy'n cael blas arbennig ar ddysgu'r dosbarthiadau ysgrifennu, gan fod sgwrsio 芒 phobl a chlywed am fywydau mor wahanol i Gymru yn hynod o ddiddorol. Ni chafodd lawer ohonynt addysg Gymraeg, felly maent yn ddi-hyder wrth ysgrifennu'r iaith, fel llawer o'r genhedlaeth hyn yng Nghymru. Byddant yn aml yn dweud pethau fel Cymraeg Patagonia dw i'n siarad' neu Cymraeg y fferm ydy fy Nghymraeg'. Ond, mewn un ffordd mae Cymraeg pobl yma yn well na Chymraeg y Cymry gan eu bod yn ymdrechu i ddefnyddio geiriau Cymraeg o hyd, er bod llawer o eiriau Sbaeneg wedi llithro i'r iaith wrth gwrs.
Gwrthod Cig
Un peth sydd wedi dychryn llawer o bobl yma yw'r ffaith nad wyf yn bwyta cig. Mae pobl yn bwyta llai o gig yma ers yr argyfwng economaidd, ond does neb yn deall pam fyddai rhywun yn gwneud hynny o ddewis, ac nid yw cyw i芒r a ham yn gig yng ngolwg rhai! Serch hynny, rwyf wedi cael digon o ddewis yn y tai bwyta hyd yma, ond mae sawl un yn sicr y byddaf wedi cael fy nhemtio gan gig oen o'r asado' (barbeciw Archentaidd) cyn mynd adref!
Capel Bethel
Heno, byddaf yn mynd i gwrdd diolchgarwch yng Nghapel Bethel, gan ei bod hi'n hydref yma nawr. Mae hi'n anodd gwybod beth i'w wisgo yn y bore, oherwydd gall gwynt oer neu gawod drom ymddangos yn sydyn, yna heulwen crasboeth unwaith eto.
Dysgu Sbaeneg
Mae fy Sbaeneg yn gwella'n raddol a gobeithiaf y byddaf yn gallu siarad yr iaith yn dda cyn dychwelyd i Gymru. Cyn gadael, rwy'n bwriadu teithio tipyn o amgylch gogledd yr Ariannin. Mae'r Wladfa yn lle arbennig iawn, ond mae'r Ariannin yn wlad anferth a'i diwylliant Sbaeneg hefyd yn fy niddori. Gobeithiaf gael blas o hwnnw hefyd cyn dod n么1.
Hasta Luego,
Eiry Miles