Mae Rhag Abertawe'n galw am wyth ysgol Gynradd Gymraeg arall i'r ddinas.
Mewn adroddiad gaiff ei gyflwyno i'r awdurdod lleol, mae Rhag yn nodi bod hyd at 38% o rieni Abertawe wedi dweud eu bod am roi addysg Gymraeg i'w plant. Dim ond tua 11% o blant y ddinas sydd ar hyn o bryd mewn addysg Gymraeg. Cynhaliaodd Rhag gyfarfod gyda phenaethiaid ysgolion Cymraeg Abertawe, a chynlluniwyd bod angen mynnu bod yr awdurdod addysg yn ymateb i'r galw sydd yn Abertawe ar hyn o bryd.
Mae'r Sir wedi s么n eu bod yn ystyried cynllun i ehangu ysgol Lon-las fel ei bod yn rhoi lle i 600 o blant. Barn gyffredinol y penaethiaid a Rhag oedd bod hyn yn nifer rhy fawr i ysgol Gynradd, a bod angen ysgolion cynradd mewn gwahanol gymunedau i wasanaethu'r cymunedau yn benodol.
Mae pwysau mawr ar Lon-las, fodd bynnag, gyda 129 yn gofyn am le ym mis Medi, a lle yn yr ysgol i 90 yn unig. Gallai 39 o ddisgyblion golli'r cyfle i gael addysg Gymraeg.
Mae Rhag yn gofyn am ysgolion yn y mannau hyn: Bonymaen/St Thomas, Treforys, Llanmorlais/Llanmadog, Dynfant/Cil芒, Cwmbwrla/Trefansel, Penlan, Gellifedw a Fforestfach/Mayals.
Eisoes, mae mwy na 100 o blant yr un o ardaloedd Treforys, St Thomas/Bonymaen a'r Gellifedw mewn ysgolion Cymraeg, ond heb fod ysgol yn eu cymuned.
Mae'r galw hefyd yn amlwg yn ardal Penlan/Mynydd-bach, gydag Ysgol Tirdeunaw yn anelu am 500 o blant. Mae Rhag yn gobeithio y bydd yr ad-drefnu sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn addysg Saesneg yn rhyddhau ysgolion ar gyfer addysg Gymraeg. Bydd Rhag yn cwrdd 芒'r Sir ganol Gorffennaf i gyflwyno'r ddogfen a hefyd dogfen arall ar sut i gychwyn dosbarthiadau cychwynnol, gan ddefnyddio model Caerdydd.
|