Ymadawodd y grwp ag Abergwaun ar Fawrth 9 ar 么l treulio mis yn llawn o weithgareddau cyffrous. Roeddent yn drist lawn i adael y teuluoedd a fun gofalu amdanynt ond mae'r ymweliad yn golygu bod rhywfaint o liw wedi dod n么l i'w bochau a rhywfaint o gig wedi cael ei roi ar yr esgyrn. Mae peth o'r clod am hyn yn mynd i Tesco's Hwlffordd a fu'n ddigon caredig i wneud yn siwr bod afol y dydd ar gael i bob plentyn bob dydd. Credir iddynt fwyta eu ffordd drwy bum bocs o 90 afal yn ystod eu arhosiad. Maent yn ddiolchgar hefyd i Boots Abergwaun am y poteli mawr o vitiminau ar gyfer bob plentyn, ac fe fyddant yn dal i'w cymryd ar 么l dychwelyd adref. Bu Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am drefnu a thalu am y bysiau bu'n eu cludo n么l ac ymlaen. Llwyddodd Mrs Margaret Burnett a'i thim o wirfoddolwyr godi 拢600 a bu hynny'n rhanol gyfrifol am yr esgidiau a brynwyd i bob plentyn am bris rhesymol o siopiau esgidiau yn Abergwaun. Rhoddwyd archwiliadau dannedd yn rhad iddynt gan Catrin Owen a'i staff, a gan Miss Lemon (o Abergwaun); John Lawrence o Drefdraeth ac Elspeth Tolland Portfield Hwlffordd. Gwerthfawrogwyd eu haelioni yn fawr iawn. Mae eu dyled yn fawr hefyd i Mr a Mrs Alexander Babis o westyr Old Cross yn Nhyddewi; Ysgol Bro Dewi am eu croeso twymgalon i'r plant i ymuno a hwy i ddathlu dydd Gwyl Dewi yn yr eglwys gadeiriol; yr Oceanarium; Clwb Rotari Abergwaun ac Wdig am drefnu diwrnod iddynt yn Folly Farm ac i Folly Farm en hunain am gymaint o reidiau am ddim; i F芒d Achub Abergwaun a'i lywiwr ar criw am y trip ar y bad achub; I ysgol Tasker-Milward am en gwahodd i weld 'Hot Mikado'; Ysgol VC Hwlffordd ac Ysgol Mount Airey; Cymdeithas ddiwylliadol Trewyddel; BP Karting, Liwynhelyg; Castell Penfro; Pirate Pete o Aberdaugleddau; ac hefyd i faer Abergwaun y Cyngh David Williams a'i osgordd am y te bendigedig a baratowyd yn Siambr y Maer ar gyfer y plant a'r teuluoedd y buont yn aros gyda hwy. Diolch i'r maer hefyd am gyfiwyno anrheg yr un i bob plentyn tei i'r bechgyn a sgarff i'r merched. Fel gwerthfawrogiad, cyflwynodd arweinydd y Belarusiaid, Tamara Zosima anrheg i'r maer o addurn i'w roi ar y wal ac anifail gwyllt o'r ardal arno. Mae'r trefnwyr yn ddiolchgar tu hwnt i'r gymuned yn ac o amgylch Abergwaun a fu mor weithgar yn helpu i roi siawus i'r plant anffodus yma i gael y siawns i wella o'r hyn y mae ffawd wedi ei daflu atynt. Mae'r plant wedi gwerthfawrogi'r ewyllys da yn y gymuned ac fe fyddant yn well pobl o'r herwydd. Os oes diddordeb gan unrhyw un i helpu gyda'r gwaith o Linell Bywyd Plant Chernobyl, yna cysyllter 芒 Bryon neu Carole Alabaster ar 01348 811325.
|