成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Myfyrwraig o'r Wladfa yng Nghymru O'r Wladfa i Gymru
Hydref 2008
Merch o Batagonia yn dod i Gymru i ddysgu mwy am y system addysg.
Ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008 fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitan yn Chile gan chwydu fflamau a mwg filltiroedd i'r awyr. Cariwyd y llwch a'r lludw hynny dros y ff矛n i'r Ariannin gan effeithio'n ddrwg ar drigolion Godre'r Andes lle mae 'na gymdeithas Gymraeg gref. Roedd hwn y tro cynta' i Chaitan ffrwydro ers mwy na 9,000 o flynyddoedd.

Am gyfnod daeth bywyd bob dydd i stop bron gyda siopau a swyddfeydd ar gau a dim trafnidiaeth ychwaith am fod y ffyrdd i gyd ar gau. Roedd yr awdurdodau yn apelio ar bawb i beidio 芒 mynd allan o gwbl os oedd asthma neu broblemau anadlu gyda nhw ac roedd yn rhaid i bobl wisgo mygydau rhag anadlu'r llwch a oedd yn disgyn fel eira o'r awyr am wythnosau. Roedd yr ysgolion i gyd ar gau am gyfnod gan gynnwys yr ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threvelin.

Pan ddigwyddodd hyn roedd trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng Menter laith Patagonia ac Urdd Gobaith Cymru ynglyn a'r syniad o bobl ifanc o'r ardal yn derbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Ond oherwydd yr effaith anffodus ar ddarpariaeth gwersi a gweithgareddau Cymraeg yma yn ardal yr Andes yn sgil Chaitan roedd hi'n bellach yn bwysig i geisio gweithredu'r prosiect yn gynt. Aethpwyd ati i roi'r trefniadau ymarferol yn eu lle ar frys a chyda cynnig pendant gan yr Urdd yr unig her oedd dod o hyd i gost y tocynnau awyren.

Pryd hynny glywsom gan Ceri Jones o Hwlfordd, Sir Benfro. Bob bIwyddyn bydd Ceri yn dysgu fel athro ar gwrs Cymraeg yn Llundain ac yn ceisio gwneud rhywbeth i godi arian at achosion Cymraeg yn ystod yr amser hynny. Eleni cystadlodd mewn triathlon a Ilwyddodd i godi dros 拢200. Yn sgil darllen amdanon ni yn y wasg penderfynodd ein dewis ni i dderbyn y nawdd y tro hwn. Wedi ein hysbrydoli gan y rhodd hael hon wnaeth Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter laith Patagonia ap锚l yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru.

Fe wnaeth ymateb hael a thwymgalon pobl Cymru ein syfrdanu. Daeth llif o gyfraniadau ac, erbyn hyn rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod digon o arian wedi cyrraedd i ni ddanfon dau berson eleni. Mae un newydd gychwyn gydag un arall i ddilyn yn fuan. Yr un cyntaf i gyrraedd bydd Laura NWitschek (23 oed) o Drevelin. Fe fydd hi'n aros am 6 mis yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog. Mae Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd bellach ac fe fydd yn parhau i ddysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at y profiad o gael gweld Cymru, dysgu mwy am ei diwylliant ac wrth gwrs y cyfle i ddefnyddio a gwella fy Nghymraeg." meddai Laura.

Ar ran Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Patagonia hoffwn ddiolch o galon i bawb yng Nghymru am wneud y profiad hwn yn bosibl iddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy