Mae cyn-seren y grwp enwog Catatonia wedi profi pinaclau y byd pop a difyrru miloedd ar filoedd o bobl o'r llwyfan ac ar record, ond pan gyrhaeddodd dydd pwysicaf ei bywyd, sef diwrnod ei phriodas, capel bach dinod yng ngogledd Penfro oedd yr unig le a wn芒i'r tro.
Ie Capel Rehoboth ger Trefin, lle mae rhieni Cerys wedi ymgartrefa, oedd Y LLE ac os oedd hynny yn golygu taith miloedd o filltiroedd o Nashville yn yr Unol Daleithiau, felly y bu!
A'r Cerys a welwyd gan y cannoedd o bobl lleol a oedd wedi troi allan ar brynhawn gaeafol oedd person go wahanol i'r darlun a gyflwynwyd yn y cyfryngau.
Wedi cyrraedd gyda'i thad Paul y tu 么l i hen dractor Fordson yr oedd digon o amser i gael i siarad gyda phobl a hyd yn oed i arwyddo'i llofnod. Un o'r rhai a fu'n siarad a hi oedd ei chyn athrawes pan oedd Cerys yn astudio Lefel A yn Ysgol Uwchradd Abergwaun, sef Sh芒n Griffiths.
"Meddyliwch ei bod hi wedi aros i siarad 芒 fi" meddai gan sychu'r dagrau o'i llygaid. Un arall oedd yn llawn cyffro ar 么l i Cerys fod yn siarad 芒 hi oedd Elfeira Harries o Gasblaidd. "Gofynnodd oedd Catrin" meddai gan wenu o glust i glust.
Roedd croeso'r dyrfa i Cerys yn dwymgalon iawn ond roedd croeso'r teulu i'r dyrfa yn amlwg hefyd. "Diolch i chi gyd am ddod", meddai Pauline ei mam, wrth iddi wau drwy'r dyrfa niferus i'r capel.
Wedi i'r briodferch yn ei gwisg sidan ifori fynd i mewn i'r capel i gwrdd 芒'i darpar wr Seth Riddle, dywedodd hi ei haddunedau yn y Gymraeg ac yntau yn y Saesneg.
Mewn neges i bobl ifanc Cymru, a drosglwyddwyd ar ei chais gan y Parch Geoffrey Eynon, dywedodd bod angen gwaed newydd ar gapeli ac eglwysi Cymru a bod angen y capeli a'r eglwysi ar bobl ifanc Cymru hefyd.
Dywedodd ei bod yn tristhau bob tro mae'n dychwelyd i Gymru o weld mor wag yw'r capeli a'r eglwysi yma o'u cymharu a eglwysi Nashville.
Adroddiad llawn ac argraffiadau y Parch Geoffrey Eynon o'r briodas...
Wedi wythnosau o gadw cyfrinachau a dyfalu ym mhle a phwy fyddai'n priodi Cerys Matthews, cyn aelod o grwp Catatonia, a'i darpar wr Seth Riddle cynhyrchydd Recordiau yn Nashville, ddaeth y diwrnod mawr, dydd Sadwrn diwethaf pryd y datgelwyd y cyfan. Rehoboth, Capel yr Annibynwyr Cymraeg, ger pentref Mathri, Sir Benfro oedd y lleoliad, a minnau cafodd yr anrhydedd o weinyddu'r priodas.
Dechreuodd y cyfan n么l ym mis Tachwedd, pan gefais neges wedi'i adael ar fy mheiriant ateb oddi wrth Cerys yn gofyn i mi i gysylltu 芒 hi. Dyna beth wnes i, a threfnu cwrdd y diwrnod canlynol yng nghartref rhieni Cerys yn Nhrefin.
Er fy mod yn 'nabod ei thad a'i mam ers llawer blwyddyn, dyma'r tro cyntaf i mi siarad 芒 Cerys. Cefais groeso tywysogaeth ar yr aelwyd gan y teulu. "A wnewch chi fy mhriodi i a Seth yng Nghapel Rehoboth ar Chwefror 22ain - ond cadwch y gyfan yn gyfrinachol" oedd cwestiwn Cerys. Wedi dod dros y sioc, yn rhoi ateb cadarnhaol iddynt, ac yn diolch iddynt am yr anrhydedd.
Yna, heb rybudd o gwbwl, aeth Cerys i 'mofyn Beibl, a'i agor yn Llyfr y Pregethwr, 4ydd bennod "Ma'r bennod hon yn golygu llawer i ni, ac wedi cael bendith fawr wrth ei darllen, a carwn ni pe byddech yn dweud gair ar y bennod yma yn y briodas" meddai. Mi soniodd wedyn am rai o'i phrofiadau wrth ymweld 芒 chapeli yn Nashville, a bod hyn yn galondid mawr iddi wrth weld y capeli yn llawn a rhan helaeth o'r gynulleidfa yn bobl ifanc.Wedi treulio rhyw awr yng nghwmni y p芒r addfwyn ac annwyl, yn awgrymu rhyw bethau ar gyfer y briodas, penderfynu cwrdd eto wedi iddynt gyrraedd yn 么l o Nashville yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Ar ddechrau Chwefror cefais wahoddiad eto lawr i'r aelwyd yn Nhrefin er mwyn gwneud rhagor o drefniadau ar gyfer y diwrnod mawr. "R'yn ni am i'r diwrnod i fod yn fythgofiadwy, gyda darlleniadau, gwedd茂au, anerchiad ac emynau - pedair ohonynt, ac wrth gwrs y seremoni ei hun".
Wedi i'r newyddion am y briodas gael ei ddatgelu i'r wasg a'r cyfryngau, gyda'r dyfalu yn dechrau, ble a phwy, ac yn enwi rhai o enwogion y s锚r pop fyddai'n debygol i fod yno. Minnau unwaith eto yn cael fy siarsio i beidio dweud gair.
Ychydig o ddyddiau cyn y diwrnod mawr cefais ganiat芒d gan Cerys i ymddangos ar y cyfryngau, ond i beidio datgelu unrhyw gyfrinach "Ond os cewch chi gyfle, yn lle s么n am y briodas, gwnewch ap锚l i'r bobl ifanc, ac i bawb o ran hynny i droi yn 么l at Gapel ac at Grist" oedd y frawddeg fawr sydd wedi fy nharo i yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Diwrnod braf o wanwyn - er ychydig yn oer i'r cannoedd oedd yn sefyll tu allan i Gapel bach gwledig Rehoboth, yn disgwyl yn eiddgar i weld y seren bop yn cyrraedd mewn treilar yn cael ei thynnu gan dractor y 1930au. Wedi gwylio'r gwesteion yn cyrraedd yn eu dillad 1930au daeth yr amser i weld Cerys ai thad yn cyrraedd.
Cefais gyfle ar ddechrau'r oedfa hamddenol, i groesawu pawb o bob rhan o'r byd i Rehoboth ac i'r digwyddiad mwyaf yn hanes Cymru ar wah芒n i g锚m fach o rygbi yng Nghaerdydd , gan obeithio y bydd i'r diwrnod fod yn fythgofiadwy i bawb oedd yn bresennol, yn y capel, ac i'r gynulleidfa tu allan oedd yn gwrando ar yr offer sain.
Yr emynau a ddewiswyd gan Cerys a Seth oedd 'What a friend we have in Jesus', 'Guide me O Thou great Redeemer, 'Bendigedig fyddo'r lesu', a 'How Great Thou art'. 'Roedd y seremoni briodasol yn hollol ddwyieithog gyda Seth yn cymeryd ei addunedau yn Saesneg a Cerys yn Gymraeg. Wedi arwyddo'r cofrestr - a hynny yn digwydd yn y pulput "oherwydd mai dyma'r fan mwyaf pwysig yn y Capel, lle mae'r Gair yn cael ei phregethu" meddai Cerys, minnau yn cael cyfle i ddweud gair o'r un pulpud.
Gan fod y dyrfa fawr yn y capel a thu allan yn gwrando, cefais y cyfle i gyflwyno neges a her Cerys - Wedi treulio cyfnodau yn Nashville, a gweld y capeli yn llawn o bobl, a'r rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc yn mwynhau eu hunain, y mae hyn yn codi fy nghalon. Yna wrth ddod n么l i Gymru a gweld y cynulleidfaoedd yn prinhau a chapeli yn cau, mae hyn yn fy nolurio. Chi bobol ifanc, a bobl o bob oedran a wnewch chi droi yn 么l at y Capel. Y mae angen bywyd newydd yn ein heglwysi, y mae angen y bobol ifanc, y mae angen pobl o bob oedran. Os gwnewch chi hyn a throi yn 么l at Grist a'r Eglwys, y bydd heddiw yn ddiwrnod fythgofiadwy i bawb ohonom.
Er mwyn dangos fy mod yn gwrando ar y byd pop - defnyddiais deitl un o ganeuon Cerys a Tom Jones Baby, its cold outside a dehongli'r geiriau hynny mewn ffordd ysbrydol. Y mae'r byd y tu allan i'r eglwys yn fyd oer iawn, yn fyd creulon, a chasineb ym mhob man. Os gwnawn adduned i droi at y Crist sydd yn oleuni'r byd, sydd yn rhoi gwres a chariad i ni, yna fe ddaw'r byd yn well le i fyw ynddo. Cyfeiriais hefyd at y 'rhaff deirgainc yn Llyfr Pregethwr 4 gan gymharu hyn gyda phriodas. Os yw priodas i lwyddo, yna mae'n rhaid iddo gael ei glyn gan dri pherson - sef y gwr, gwraig a Duw. Adduned yw priodas, addunedu byw ynghyd fel gwr a gwraig ac i gael y Crist byw yn rhan o'r cyfan i gyd.
Wrth edrych yn 么l dros y penwythnos, 'roedd hi'n brofiad fythgofiadwy, yn arbennig o gofio y dyrfa fawr oedd yno i gae olwg o'r seren bop, a'r cyfle hefyd i wasanaethu ym mhriodas y ferch ifanc hon oedd am i'r genedl i gofio'r diwrnod wrth osod her iddynt. Y mae'r ffaith fod Cerys am briodi yn 么l ei chynefin, mewn capel bach cefn gwlad, lawr ffordd cul, droellog, yn dweud llawer amdani.
Parchedig Geoffrey Eynon.