Mae'r stori drist yn cael ei adrodd o dro i dro am John Laugharne, un o weithwyr bu'n gweithio ar y fferm, Berry Hill. Gorchmynwyd ef rhyw ddydd i fynd 芒 cart a cheffylau i Harbwr Abergwaun i n么l adnoddau ar y fferm. Rhaid cofio yr adeg hynny, 'roedd y porthladd yn y cwm yn Abergwaun. Bu rhaid amseru ei daith fel y byddai'r llanw allan, a'r cerbyd yn galled croesi'r afon yn ddiogel. Fe aeth pob peth yn iawn, ond ar ei ffordd yn 么l o Abergwaun, penderfynodd John Laugharne dorri ei syched yn y Llew Aur. Bu'n mwynhau'r cwmni a'r cwrw cyn ail ddechrau ei daith yn 么l i'r fferm. Erbyn hyn, roedd y llanw i fewn yn sylweddol, a'r dwr braidd yn ddwfn. Amser cyrhaeddodd yn 么l, dim ond y ceffylau a'r cart, a'r llwyth oedd i'w gweld,- dim s么n am John Laugharne, ac erbyn hyn, yr oedd yn dywyll. Y bore wedyn, amser aeth ei gyflogwyr i chwilio amdano, cawsant ei gorff wedi boddi wrth ymyl y dwr. 'Rwyn ddyledus i Mr. Wm. Lewis o'r Dinas am y stori honno. Fe sylweddolwyd fod gwir angen Pont newydd ar bobl Trefdraeth; ac fe aeth Dr.David Havard, y cynghorydd lleol (tad Dr. Dai) ati o ddifri. Amcangyfrifwyd y byddai'r bont yn costio tua 拢1,400. Ffurfiwyd Pwyllgor y Bont yn 1891, ac yna addawyd 拢566 o blwyf Nanhyfer, 拢148 o Drefdraeth, 拢20 o Drewyddel, gyda 拢169 o'r cylch cyfagos. Cyflwynwyd cais i'r Cyngor Sir gan Dr. Havard - cais am arian i fyny at 拢700 tuag at y gost, ac yn y diwedd cytunwyd ar y ffigwr yma. Adeiladwyd y bont gan y Meistri Clifford & Sampson Morgan o Hwlffordd gyda'r Meistri Pierson o Lundain yn gwneud y gwaith haearn. Danfonwyd yr haearn ar y rheilffordd, a cytunwyd y dylai'r gweithwyr gael 2 neu 3 peint o gwrw yr un ar 么l gorffen y gwaith. Yna agorwyd y bont ym 1893, bont oedd i bara ychydig dros gan mlynedd. Martin Lewis
|