Roedd y torfeydd yn well nag erioed a
nifer y fflotiau'n fwy hefyd yng Ngharnifal
Abergwaun a drefnwyd gan y Ford Gron,
er gwaetha'r tywydd.
Wedi'r agoriad swyddogol gan y Maer, Mr David Williams, fe aethpwyd ati i feirniadu'r ymgeiswyr. Tom Latter a Buzz Knap-Fisher aeth a hi
gyda'u harddangosfa ar y cyd yn dwyn y
teitl 'Atebion Byd-eang'. Ar y ffl么t roedd
hen dwmp olew llygredig, gyda char
nodedig Buzz yn dilyn.
Mae yna Dalent ym Mhanteg, ddaeth yn ail, a FADDS yn
drydydd. Y Pendre oedd enillydd y dafarn
orau a Tir a M么r y siop orau. Bu cystadlu
brwd yn adran y gwisgoedd ffansi. 0 dan 10 oed y Babell Gwrw ddaeth yn gyntaf,
Alice in Wonderland, gyda'i chwningen,
yn ail, a Brynosaurus yn drydydd. 0 11 oed i 16 oed, yn gyntaf oedd I've been framed',
Nancy yn ail a 'Bull's Eye' yn drydydd.
Dros 17, daeth yr Artful Dodger yn gyntaf, daeth Nancy'n ail a chafodd y Taflwr Disg trydydd. Yn y
grwpiau, daeth Fagin a'i griw yn gyntaf, Yr Olympiau yn ail a Nancy ac Oliver yn
drydydd.
Roedd lori fawr Martin Hall wedi'i
gwisgo mewn lliwiau Ilachar Ap茅l Arch
Noa yn amlwg, a bu ef hefyd yn hael iawn
yn caniatau i bobol ddefnyddio ei dreilers
i'w haddurno ar gyfer y carnifal.
Dywedodd y cadeirydd, Mr Robin
Baker, fod Carnifal Ford Gron Abergwaun
a'r Cylch ynghyd 芒 'Thynnu'r Wagen' wedi codi arian sylweddol i elusennau lleol.
Diolchodd i bawb a gymrodd ran am eu hymdrechion, i'r cyhoedd am ddod, ac i'r
sawl a noddodd y prynhawn. Y Skazz oedd yn darparu'r gerddoriaeth,
gan ddechrau'n addas iawn gyda 'Jazz in
the Park'.
|