Dangosodd Philip Mathews, S诺n y Don, y Felin yn Llanrhian nawr, bod y gwaith ar yr hen felin wedi dod i ben, a rhyfedd oedd gweld yr hen adeilad. Er mai preswylfa yw yn awr, uno yr hen a newydd (gyda rhannau gweithredol yr hen felin tu 么l i wydr) gyda chanlyniad graenus a chartrefol. Cafwyd hanes yr adeilad dros y canrifoedd pan oedd y felin yn hanfodol i bobl yr ardal.
Yna yn 么l 芒 ni i 'Dafarn y Llong`, Trefin, i gael pryd o fwyd. Cyn dechrau canu, cyflwynwyd llun i Anthony Thomas, y cadeirydd, yn ei ddangos gyda thlws a chwpan Eisteddfod yr Hoelion 2006. Gyda'r ddeddf newydd yn dod mewn ym mis Ebrill cafwyd eiliad hanesyddol yng nghyfarfod mis Mawrth pryd y taniodd Byron Reynolds, Don Evans a Dai Salmon eu sigaret olaf yng nghyfarfod yr Hoelion, ac i nodi'r achlysur arbennig cyflwynwyd copi o addasiad o gerdd 'Melin Trefin' am y digwyddiad unigryw i'r tri.
Cwrdd yn `Y Llong' mae'r Hoelion ar y nos Fercher ddiwethaf yn y mis. Mae yno Gymry Gymraeg a dysgwyr a cheir croeso cynnes i bawb. Dechreuodd y flwyddyn ym mis Medi gyda Byron Reynolds yn dangos lluniau o Drefin ac adrodd hanes y pentref. Geraint Jones oedd siaradwr gwadd mis Hydref ac roedd Geraint a'r teulu wedi cymryd rhan mewn rhaglen deledu ar ail gylchu. Cawsom hanes y rhaglen a gofyn cwestiynau yngl欧n ag effaith y rhaglen ar y teulu.
Gillian Price oedd yn gyfrifol am gyfarfod mis Tachwedd. Athrawes yn Ysgol Gynradd Croesgoch yw Gillian. Teithiodd i Lesthoto a bu'n athrawes mewn ysgol fach wledig. Roedd yr adnoddau yn brin iawn i gymharu 芒 Sir Benfro, ond roedd y plant yn hapus ac yn awyddus i ddysgu. Roeddent yn cerdded milltiroedd
i'r ysgol, a dim s么n am geir mawr pedair olwyn! Braf yw ein byd ni yma!
Testun Brian Jones yng nghyfarfod mis Ionawr oedd ei `filltir sgw芒r'. Soniodd Brian am ei blentyndod ac am adeiladau, crefydd, digwyddiadau a chymeriadau ei fro a'r dylanwadau a fu arno. Diddymwyd cyfarfod mis Mawrth i ymarfer a pharatoi am Eisteddfod yr Hoelion. Er i gangen `Wes Wes' ennill y darian a'r tlws y llynedd tro Beca oedd hi eleni i fynd i'r brig. Enillodd Byron Reynolds ar y Stori Fer, a chafwyd ail yn y g芒n actol ('Ceilog Beti'). Ail oedd Geraint Evans yng nghystadleuaeth y frawddeg, a daeth y c么r a'r sgets yn drydydd. Dywedodd un wag ar y bws wrth fynd adre nad oedd y beirniaid ddim yn deall ei waith!!
Martin Roberts oedd siaradwr mis Mawrth yn olrhain hanes plwyf Llanrhian ac yn dangos mapiau a dogfennau yn y degawd 1840. Mae Geraint Evans wedi ei benodi yn gadeirydd am y flwyddyn fydd yn dechrau mis Medi. Croeso i bawb.
|